Noam Chomsky (Duncan Rawlinson - CCA2.0)
“Linguistics” wnes i yn y brifysgol … “English and Linguistics”. Fydden i wastad wedi rhoi’r cyfieithiad cyffredin ‘Ieithyddeg’ ar fy CV, ond nawr yn ddiweddar mae rhywbeth fel y www.geiriadur.net yn rhoi “Ieithyddiaeth”.
Mae geiriadur mawr Bruce yn dweud “ieitheg” hefyd. Dyna yw natur dwyieithrwydd wrth gwrs – mae yna ddewis a dyn yn gweld yn syth bod trawsnewid iaith, neu gyfieithu, neu drawsieithu yn cyflwyno mwy nag un ystyr/syniad.
Diffiniad “ieithyddiaeth” yw’r astudiaeth wyddonol o iaith – ac mae’n rhannu llawer o syniadau cyffredin gyda’r ‘strwythuriaeth’ a ddaeth i’r amlwg yn y 1970au trwy syniadaeth ysgolheigion megis Levi Strauss.
I ddweud y gwir, pan o’n i yn y coleg oeddwn i’n gweld rhai elfennau o ieithyddiaeth yn go anodd. Mae’n gallu bod yn eithaf sych – mae’n wyddonol, mae’n fathemategol ac mae pobol yn edrych am batrymau.
Dau gawr
Dau o gewri’r maes yw Ferdinand de Saussure a Noam Chomsky.
Mae Chomsky yn fyw o hyd ac efallai byddwch chi’n gyfarwydd â’i enw gan ei fod yn enwog iawn am fod yn wrth-Werinaethol pan oedd George W. Bush yn Arlywydd.
Fe wnaeth Saussure gyfres o ddarlithoedd ar y testun “Course of General Linguistics” , ond mae’r llyfr wedi ei seilio ar nodiadau ei fyfyrwyr – nid ef oedd yr awdur ei hun felly (dyna esiampl go gynnar o “death of the author”/ marwolaeth yr awdur, syniad yr oedd yna sôn mawr amdano yn y 70au gan Levi Strauss ac ati!) .
Dyna oedd ei waith mwyaf. Roedd yn y Ffrangeg yn wreiddiol ac mae gen i ddiddordeb yn sut mae pethau yn gallu trawsnewid o un iaith i’r llall. Felly, pan mae dyn yn edrych ar ddyfyniadau, dyma’r pethau yr ’yn ni, Gymry, yn gorfod eu hystyried :
- pa ddyfyniadau ydw i’n mynd i’w cyfieithu?
- pa ddyfyniadau ydw i yn mynd i’w cadw yn yr iaith wreiddiol?
- beth ydy iaith y llyfr, gan fod ambell i waith – fel Saussure – yn y Ffrangeg yn wreiddiol ac felly wedi cael ei gyfieithu unwaith eisoes.
Ieithyddeg ac awtistiaeth
Ta waeth, dw i’n gweithio yn y maes addysg erbyn hyn, ac mae yna gysylltiad yn fy marn i rhwng y ffaith bod llawer iawn mwy o fechgyn yn cael eu nodi’n awtistig na merched.
Mae merched yn gallu bod yn awtistig, ond mae’n ymddangos ei bod hi lawer iawn yn haws i wneud diagnosis ar fachgen ar hyn o bryd – nid cyd-ddigwyddiad yw hi felly taw dynion sy’n dod i’r amlwg yn y maes ieithyddeg achos mae dynion (fel finnau i raddau) yn hoff o batrymau.
Rydym yn gweld cysur mewn patrymau mathemategol – mae hyn yn elfen o awtistiaeth ac i fi mae yna elfennau o ieithyddeg sy’n ymddangos fel petaent wedi cael eu creu gan rywun sydd man lleiaf ar sbectrwm awtistiaeth.
Roedd Saussure wedi troi’r pwyslais oddi ar anthropoleg a’r obsesiwn i brofi fod gan bob iaith darddiad cyffredin yn Sanskrit yr India at astudio iaith fyw, er mwyn dod o hyd i batrymau cyffredin go iawn.
Natur neu feithrin?
Mae unigolyn megis Chomsky wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn són am “generative grammar” : sydd, yn syml iawn, yn arddangos fod yna batrymau mewn nifer fawr iawn o ieithoedd, sy’n awgrymu’n gryf bod yna elfen o iaith ynom i gyd o’r groth.
Mae Ieithyddeg yn ceisio ateb (ac efallai i raddau wedi ateb) un o’r cwestiyna mawr :
- ydy iaith yn bod yn ein hymennydd adeg ein geni,
- neu ydy iaith yn cael ei dysgu?
Sut mae hyn yn effeithio arnon ni yng Nghymru felly?
Yn syml, yn ôl syniadau Chomsky, mae gan bob unigolyn y gallu i ddysgu iaith newydd gan fod hynny’n rhan o’n natur.
Dim esgusion felly: ewch ati i fabwysiadu dysgwr ar-lein gan ddilyn esiampl @hywelgwynfryn a @carwyntywyn!
Neu dechreuwch ambell i sgwrs yn y Gymraeg man lleia, er mwyn ceisio profi fod gan 1 ym mhob 3 cartref yng Nghymru siaradwr Cymraeg erbyn hyn er gwaetha’r digalonni wedi’r Cyfrifiad.