Celf, caws a gwin… be’ well ar ddiwrnod braf o haf?

Mae Oriel Glasfryn yng Nghaerwys, Sir y Fflint wedi trefnu digwyddiad arbennig sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg, neu unrhyw un sy’n siarad Cymraeg ac yn ymddiddori mewn celf Gymreig, i fwynhau sgwrs gan y crochenydd lleol Erin Lloyd, gwin lleol a chawsiau Cymreig.

Y crochenydd Erin Lloyd wrth ei gwaith

Y dirwedd o’i hamgylch ar fferm y teulu sy’n ysbrydoli gwaith Erin Lloyd, ac mae’n defnyddio clai a phigmentau naturiol o Afon Corris yn ei chrochenwaith. Bydd yn siarad am ei gwaith yn y digwyddiad ddydd Sul, Awst 11 am 12yp.

Crochenwaith Erin Lloyd

Fe fydd dysgwyr yn cael rhestr o eiriau defnyddiol yn y Gymraeg i’w helpu yn ystod y sgwrs, a bydd cyfle i holi Erin wedi hynny.

Dinbych y Pysgod ym mis Medi gan yr artist Ann Lewis

“Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath rydan ni wedi’i gynnal yma ac mae’n cyd-fynd ag Arddangosfa’r Haf – ‘Cymru Wyllt’ – sydd ymlaen hyd at 26 Awst,” meddai Lise Roberts, perchennog Oriel Glasfryn. “Mae gynnon ni lu o artistiaid o Gymru fel Ann Lewis, Jenny Ryrie, Russ Chester, Aimee Jones, Georgie Dowling a Josh Johnson. Mae rhywbeth at ddant pawb.

“Mae’r sgwrs efo Erin Lloyd ar Awst 11 yn ffordd wych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a dysgu ychydig o eiriau newydd, neu unrhyw un arall sy’n siarad Cymraeg ac yn mwynhau gwaith celf o Gymru. Dw i’n gobeithio mai dyma fydd y cyntaf o nifer o weithgareddau tebyg.”

Ras aredig yn Rhyd-y-Clafdy gan yr artist Russ Chester

Mae tocynnau’n £15 y pen ac yn cynnwys glasiad o win Cymreig o Winllan y Dyffryn yn Sir Ddinbych, a dewis o gawsiau Cymreig, sgwrs gan Erin Lloyd, a rhestr o eiriau Cymraeg i gyd-fynd â’i chyflwyniad.

Bydd angen prynu tocyn ymlaen llaw, a bydd gostyngiad ar gyfer grwpiau o bedwar a mwy. Gallwch brynu tocynnau ar-lein o orielglasfryn.com/online-shop neu drwy ffonio 01352 349037.