Mae cwmni teledu teuluol Afanti yn creu rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, ac fe fydd y pennaeth yn sgwrsio am ei hanes yn trefnu gig arbennig gyda Tom Jones ar y Maes yn yr Eisteddfod yr wythnos nesaf…

Mae cyd-sylfaenydd cwmni cynhyrchu Afanti wedi derbyn yr Order of the British Empire (OBE) eleni, a hynny ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn 60 oed.

Ers 1917 caiff yr OBE ei roi gan y Teulu Brenhinol i bobl sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fyd y celfyddydau.