Yn wreiddiol o Loegr, fe benderfynodd Pennaeth Cyhoeddi Llyfrau Saesneg Gwasg Y Lolfa fynd ati i ddysgu siarad Cymraeg a symud i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad gyda’r band roc y Super Furry Animals.
Y cyhoeddwr 53 oed fu’n golygu llyfr newydd Huw Stephens, ‘Wales: 100 Records’, ac roedd hi wrth ei bodd yn dysgu am fandiau ac artistiaid newydd…
O le ydych chi’n dod yn wreiddiol?
Dw i’n dod o Swydd Buckingham yn wreiddiol. Mae gen i gefndir o ddysgu Saesneg fel iaith dramor – ro’n i’n byw a gweithio yn Rhufain yn yr Eidal. A chyn symud i Gymru, ro’n i’n byw yn Rhydychen ac yn gweithio i Oxford University Press ar werslyfrau Saesneg ar gyfer plant yn eu harddegau yn yr Eidal.
Pam wnaethoch chi ddysgu Cymraeg?
Wnes i ddysgu Cymraeg ar hap. Dw i’n ffan mawr o’r Super Furries a dw i’n ffan mawr o ieithoedd – dw i’n siarad Eidaleg ac yn ei siarad yn llawer gwell na’r Gymraeg. Ro’n i jest yn meddwl: ‘Sut mae’r Gymraeg yn gweithio?’ wrth wrando ar ganeuon y Super Furries. Felly wnes i lawrlwytho gwers un SaySomethinginWelsh, ddim yn bwriadu dysgu Cymraeg o gwbl. Wnes i ddisgyn mewn cariad efo’r iaith a wnes i gyfarfod lot o bobol trwy’r Gymraeg.
Beth wnaeth i chi symud i Gymru?
Roedd dysgu Cymraeg jest yn gyfnod mor hyfryd ac mewn cyfnod llawn straen yn y gwaith hefyd. Ro’n i’n breuddwydio am gael ymddeol i Gymru rhyw ddydd a chael siarad Cymraeg. Daeth y cyfle pan roedd fy ngwaith yn ailstrwythuro’r cwmni. Wnes i benderfynu gadael a ches i’r swydd o fy mreuddwydion yn Y Lolfa. Dw i mor hapus gyda’r penderfyniad yna.
Dw i’n byw yn Aberystwyth rŵan ac mae’n hyfryd. Mae Swydd Buckingham yn bell iawn o’r môr felly mae’n hyfryd cael byw ger y môr.
Ar ôl cyrraedd yma, wnes i gyfarfod fy mhartner, Talat Chaudri. Wnes i gyfarfod o drwy’r Gymraeg ac mae o’n gweithio gyda Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae gennym ni gefndir eithaf tebyg – dod o Loegr a byth yn teimlo ein bod yn ffitio mewn yno… Dod yma i siarad Cymraeg a theimlo ein bod wedi ffeindio ein lle yma. Felly wnaeth popeth syrthio mewn i’w le. Wnaeth popeth weithio allan yn wych.
Pwy oeddech chi’n gefnogi yn ffeinal yr Ewros eleni, Lloegr neu Sbaen?
Wnes i ddim gwylio fo… Dim diddordeb. Dw i wastad yn cefnogi Cymru a ddim Lloegr. Ro’n i’n fully converted cyn i fi symud.
Ers pryd ydych chi’n gweithio i’r Lolfa?
Wnes i ddechrau gyda’r Lolfa yn 2016. Dim ond dwy ohonom ni sy’n gweithio ar yr ochr Saesneg yno felly dydy’r swyddi ddim yn dod i fyny’n aml, felly ro’n i’n teimlo mor lwcus i dderbyn y swydd. Wnes i benderfynu mynd amdani yn y cyfweliad a’i wneud o yn y Gymraeg. Ro’n i’n meddwl ei fod o’n bwysig iddyn nhw weld fy mod i’n fodlon siarad Cymraeg. Dw i’n meddwl yr oedden nhw wedi synnu fy mod i’n gallu siarad Cymraeg heb fyw yng Nghymru erioed.
Mae’r swydd gymaint yn fwy diddorol na’r un ro’n i’n ei gwneud yn Lloegr. Dw i mor hapus yn fy swydd a dw i’n cael gweithio ar stwff mor ddiddorol ac amrywiaeth mor eang.
Ydych chi wastad wedi ymddiddori mewn llenyddiaeth?
Pan o’n i’n fach, ro’n i’n defnyddio pob cyfle i ddarllen. Ro’n i’n darllen cyn mynd i’r ysgol bob bore. Ro’n i’n rili brwd dros ddarllen. Wnes i Lefel A mewn llenyddiaeth hefyd. Ond yn y brifysgol yn Kent wnes i radd mewn Ffilm. Felly ro’n i wastad yn ymddiddori mewn straeon, ddwedwn ni, a wastad wedi mwynhau llyfrau.
Y bechod rŵan ydy fy mod i’n darllen trwy’r dydd yn fy ngwaith felly dydw i ddim yn darllen cymaint y tu allan i’r gwaith erbyn hyn. Os wyt ti wedi darllen am saith awr yn barod, dwyt ti ddim o reidrwydd eisiau darllen mwy ar ôl gwaith.
Wnaethoch chi fwynhau golygu llyfr newydd Huw Stephens, Wales: 100 Records?
Roedd hynny’n anhygoel o ddiddorol. Roedd o wir yn freuddwyd i mi achos dw i’n caru Cymru a dw i wir yn caru cerddoriaeth. Wnes i ddweud wrth Huw: ‘Achos y gerddoriaeth dw i yma yng Nghymru’. Wnes i ddysgu cymaint wrth olygu’r llyfr. Roedd lot o fandiau ro’n i’n nabod a lot o fandiau doeddwn i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw neu ond wedi clywed yr enw. Roedd o’n wych.
Beth yw eich atgof cynta’?
Dw i’n cofio bod ar wyliau yn rhywle yn Swydd Efrog pan o’n i’n dair oed a ges i candyfloss yn sownd yn fy ngwallt. Doedd mam ddim yn hapus!
Dw i’n ferch fferm felly wnes i dreulio lot o fy mhlentyndod allan yn chwarae yn y caeau efo fy chwaer a fy nghefndryd iau. Dw i ddim yn meddwl bod ein rhieni ni yn gwybod lle’r oedden ni ar adegau… Magwraeth yr 1970au lle’r oedd plant yn medru rhedeg yn rhydd dros y lle, bwydo ŵyn a phethau fel yna.
Beth yw eich ofn mwya’?
Cael fy nghladdu yn fyw. Pan roedd fy nhaid yn ifanc, roedd ei deulu’n meddwl ei fod wedi marw. Roedden nhw wedi casglu yn nhŷ’r teulu ar ôl yr angladd ac aeth ei modryb i’r ystafell lle’r oedd yn gorwedd yn farw. Roedd hi’n gwneud rhywbeth yn y drych a gwelodd hi fo’n eistedd yn y drych y tu ôl iddi! Roedden ni’n gwybod y stori fel plant ac roedd fy chwaer a fi wastad yn deud y doedden ni byth am gael ein claddu. Bydden ni’n cael ein hamlosgi. Tase fe heb eistedd i fyny ar y foment yna, efallai na fyswn i yma!
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dim digon.
Beth sy’n eich gwylltio?
Hunanoldeb pobol… a’r rheiny sydd ddim yn meddwl am bobol sy’n llai ffodus na ni.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Dw i’n meddwl byswn i jest yn gwahodd fy nghariad a fy ffrindiau o Rydychen. Yr unig beth dw i wir yn colli o Loegr ydy fy ffrindiau o Oxford University Press a dydw i ddim yn cael gweld nhw mor aml rŵan.
I fwyta, byswn i’n mynd i fwyty Chiang Mai yn Rhydychen ac yn cael cyri Thai gwyrdd llysieuol. Mae eu bwyd nhw yn wych.
Hoff wisg ffansi?
Roedd fy mam yn athrawes Bioleg a phan o’n i’n blentyn, wnaeth hi greu gwisg Calan Gaeaf ar fy nghyfer lle wnaeth hi dynnu llun o bob asgwrn yn y corff yn anatomaidd gywir a’u gwnïo ar ddillad gwyn i greu gwisg sgerbwd. Roedd o mor dda.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Pan o’n i yn y chweched dosbarth ro’n i mewn drama yn yr ysgol ac roedd gen i ffrog heb strapiau ymlaen… Wnaeth o lithro i lawr. Yn lwcus, roedd gen i fy nghefn i’r gynulleidfa ac roedd y llenni’n cau beth bynnag, ond yn anffodus roedd y criw llwyfan a’r holl dîm rygbi yn fy wynebu.
Gwyliau gorau?
Byswn i’n bendant yn dweud pan es i i Japan. Wnes i chwe blynedd o wersi nos Japaneaidd a’r prif reswm am fy niddordeb yn y wlad oedd fy mod i wedi dysgu Saesneg i lot o fyfyrwyr o Japan. Ro’n i wedi dod yn ffrindiau da gyda sawl un felly wnes i fynd i Japan a theithio o gwmpas ar ben fy hun am fis gan aros efo fy nghyn-fyfyrwyr. Roedd o’n brofiad mor anhygoel. Mae’r bobol mor garedig yno ac mor barod i helpu. Dw i wir yn caru Japan.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Fy nghath!
Mae hi yn gofyn yn uchel am ei brecwast am bedwar y bore neu’n dod â ffrindiau bach blewog i mewn i ddangos i ni!
Hoff ddiod feddwol?
Ysgytlaeth banana.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Fy hoff lyfr ydy Ghostwritten – casglaid o straeon byrion gan David Mitchell. Dw i’n caru hwnnw gan fod o’n sgrifennu mewn lleisiau mor wahanol ym mhob stori, ac mae cysylltiadau bychain a dyfeisgar iawn rhwng y straeon sy’n ddiddorol dros ben. Mae’r un peth yn wir am ei nofel Cloud Atlas hefyd. Dw i wrth fy modd efo pob nofel dw i wedi ei darllen ganddo – nofelydd mor, mor, wych ydy o.
Hoff air?
Ysbwriel – a gyda’r ‘y’! Dyna yw fy hoff air ers dysgu Cymraeg. Mae’n swnio’n hardd ac yn edrych yn hardd.
Hoff albwm?
Mae hwn yn anodd achos mae gen i fileodd o CDs ac LPs… ond byswn i’n dweud Mutations gan Beck, Violent Femmes gan Violent Femmes, Kilimanjaro gan The Teardrop Explodes, Doolittle gan Pixies… Ond falle Mwng gan y Super Furry Animals yw fy ffefryn achos y stori o symud yma. Mae gan Mwng le pwysig yn fy nghalon. Mae o wedi newid fy mywyd. Ro’n i’n rili anhapus cyn gadael Rhydychen a wnaeth popeth newid achos o Mwng.