Fe fu Mark Drakeford yn ffarwelio â’r Senedd yr wythnos hon, wedi pum mlynedd wrth y llyw.

Mewn teyrnged arbennig i’r Prif Weinidog ar X (Twitter gynt), fe wnaeth Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, gymryd ysbrydoliaeth o’r ffilm Star Wars.

“Wrth i chi gychwyn ar eich pennod nesaf, gadewch i ni fyfyrio ar eiriau Yoda – ‘Mewn lle tywyll rydyn ni’n ffeindio’n hunain, ac mae ychydig mwy o wybodaeth yn goleuo ein llwybr…’ Diolch am oleuo’r llwybr ymlaen i Gymru a phob lwc,” meddai.

Mae golwg360 hefyd wedi cymryd ysbrydoliaeth o’r ffilm i greu’r llun arbennig yma.