Sophie Ann Hughes, ymchwilydd ac ymgyrchydd ym maes iechyd meddwl, yn disgrifio gwaith ymchwil sy’n profi’r angen am driniaeth therapi siarad drwy famiaith.
Mae’n hysbys fod nifer o siaradwyr Cymraeg yn fwy cyfforddus a chartrefol yn siarad Cymraeg na Saesneg a bu ymdrechion lu ers blynyddoedd gan wahanol fudiadau i bwysleisio arwyddocâd hynny ym maes iechyd Cymru. Ond, plant ifanc a phobl hŷn wedi colli gafael ar eu hail iaith yw’r unig siaradwyr uniaith Gymraeg sydd ar ôl bellach felly nid rhyfedd fod oedolion wedi’u hanwybyddu – bron yn llwyr – ym myd polisi tan yn ddiweddar.
Cyfathrebu yw canolbwynt nifer o therapïau iechyd meddwl, ond tila yw’r astudiaethau sy’n adrodd profiadau uniongyrchol cleifion yng Nghymru, gyda thueddiad i adrodd profiadau drwy lygaid staff neu gofalwyr.
Roeddwn i’n awyddus i ddarganfod gwir oblygiadau derbyn gwasanaeth therapi siarad drwy ail iaith (er ein bod yn rhugl yn yr iaith honno) a penderfynais y byddwn yn cynnal astudiaeth archwiliadol i’r perwyl hwnnw fel rhan o gwrs MA Cynllunio a Pholisi Iaith ym Mhrifysgol Bangor.
Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gydag wyth gwirfoddolwr iaith-gyntaf Cymraeg a oedd wedi derbyn gwasanaethau iechyd meddwl drwy ddarpariaeth oedolion (18-64 oed) y gwasanaeth iechyd yng Ngwynedd rhwng 2010 a 2015. Gwirfoddolodd ambell gyfrannwr yn dilyn cael gwybod am y prosiect gan aelodau o staff iechyd y daethant i gyswllt â hwy, ac eraill yn dilyn gweld galwad cyhoeddus am gyfranwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dadansoddwyd y canlyniadau wedyn drwy ddefnyddio fframwaith thematig o hidlo, siartio, mapio a dehongli’r data.
Mae’r dyfyniadau i gyd gan y cyfranwyr.
Beth wnes i ei ddarganfod?
Oes, mae goblygiadau pellgyrhaeddol – a all fod yn beryglus – i beidio â derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg, gydag anawsterau i fynegi emosiynau a diffyg hyder yn amlycach wrth gyfathrebu yn y Saesneg. Gall hyn arwain at embaras, rhwystredigaeth a theimlo’n lletchwith wrth orfod cyfieithu meddyliau ar y pryd (gyda thueddiad i ddilyn cystrawen y Gymraeg), chwilio’n galetach am eiriau addas a baglu drostynt.
‘Ma’n frustrating bo’ fi methu gael o allan….dwi’n gwbod bo’ fi’n gwbod be di’r gair a mae o yna yn rwla ond dwi’n flin bo’ fi methu ffendio fo.’
Gall hyn achosi gor-wyliadwraeth (over-vigilance) annaturiol dros beth mae claf yn ei ddweud a sut – ac yn aml, teimla dan brawf.
‘Dwi’n eithaf wary… dwi ddim bob tro yn gallu egluro yn dda iawn iddi hi sut ma petha ’di gneud fi deimlo achos bod o drwy gyfrwng y Saesneg … ella bod o ddim y geiria Saesneg cywir.’
Gall straen ychwanegol ar unigolyn bregus sydd o dan bwysau i fynegi emosiynau cymhleth effeithio’n sylweddol ar ei allu i wneud yr union beth hwnnw, ac i sawl un mae’n ormod:
‘Ar yr amser yna yn dy fywyd dylia bo chdi’n côpio efo byw, dim gorfod mynegi dy hun… a goro poeni am neud hynna yn dy ail iaith… sut wti’n troslgwyddo’r neges yna mewn ffordd sydd yn neud cyfiawnder â’r ffordd ti’n teimlo yn Susnag?’
I’r gwrthwyneb, wrth dderbyn gwasanaeth yn Gymraeg mae claf yn hyderus, yn ymlacio mwy, yn ‘agor i fyny’ yn haws ac yn poeni llai am gywirdeb ystyr geiriau. O ganlyniad, mae’n fwy tebygol o fod wedi’i argyhoeddi y gall y driniaeth lwyddo, a hynny ynghynt.
Gall y famiaith fod yn ganolog wrth sicrhau’r mynegiant rhwydd sy’n hollbwysig i sefydlu perthynas therapiwtig iach, a vice-versa. Hefyd, gall anhawster wrth sefydlu’r berthynas effeithio ymhellach ar hyder a’r gallu i ymlacio yng nghwmni ymarferydd.
‘Dw i wastad yn teimlo fatha bod y berthynas broffesiynol lot gwell pan dw i’n siarad efo doctor/seicolegydd… yn Gymraeg. Dwi’n teimlo fel bo ni’n dallt ein gilydd yn well.’
Beth yw ystyr hyn o ran gwella?
O ganlyniad i’r rhwystredigaeth yma, gall trafod ag ymarferydd yn Saesneg gyfyngu ar fanylder cyfraniadau’r claf. Ar y gorau, mae disgrifio teimladau a meddyliau’n ymdrech fawr ac, yn aml, ai’r ymdrech hwnnw’n drech na chlaf pan fyddai rhaid gwneud hynny’n Saesneg.
‘Efo’r gwasanaethau Saesneg oedd gen i lai o fynadd… onim cweit yn gallu cyfleu’r neges yn y ffordd iawn. Wedyn o’n i’n meddwl “wel os dwi ddim wedi gallu cyfleu hynna yn iawn, dw i’n sicr ddim yn mynd i fynd ymlaen i siarad am rwbath dwysach” so mi o’dd o’n cyfyngu dy ewyllys, a dy allu cynhenid i drafod rhai petha dwysach.’
Yn anffodus, dyw mwyafrif cleifion ddim yn sylwi nac yn ystyried bod cyfrwng iaith yn cyfyngu ar yr hyn y maen nhw’n ei rannu. Gwyddant fod rhaid rhannu’n llawn er mwyn gwella ond daw i’r amlwg eu bod yn methu ag egluro popeth sydd angen yn Saesneg, serch eu parodrwydd i wneud hynny. Awgryma hyn effaith sylweddol ond anuniongyrchol ar yr hyn y mae’r claf yn ei ddatgelu pan na chaiff wasanaeth drwy’r famiaith.
‘Di o ddim be dw i’n hapus i drafod, ma fwy i neud efo’r ffaith bo’ fi ddim bob tro yn gallu egluro petha cyn gystad yn y Saesneg a fyswn i yn Gymraeg.’
Dydi nifer y geiriau sy’n cael eu dweud gan glaf ddim o reidrwydd yn golygu cyfraniadau o ansawdd chwaith. Mae natur rwydd a naturiol rhannu yn y Gymraeg yn golygu bod pwysau emosiynol cryfach i’r geiriau a bod modd egluro mwy mewn llai. I’r gwrthwyneb, gall yr ymdrech o ddod o hyd i ffordd o egluro a gwneud cyfiawnder â theimladau arwain at sgyrsiau ‘gor-eiriol’ nad ydynt yn gwneud synnwyr emosiynol i’r claf fel y byddent yn eu mamiaith. Mae’r effaith yma ar ansawdd yr hyn sy’n cael ei ddatgelu yn gudd, ond yn beryglus.
‘Os ti ddim yn mynegi dy hun yn rhwydd, dydy nhw [yr ymarferwyr] ddim yn mynd i ddallt goblygiadau be ti’n ddeud arna’ chdi dy hun ne sut wti’n dioddef.’
Pwy bia’r cyfrifoldeb?
Nid y claf.
Mae cleifion yng Nghymru’n parhau’n amharod i ofyn neu dderbyn cynnig am wasanaeth Cymraeg rhag cael eu hystyried yn ‘ocwyrd’ neu’n hiliol am fynegi ffafriaeth. Maent yn ofni derbyn gwasanaeth israddol ac yn pryderu am oedi neu bellter teithio hir er mwyn derbyn gwasanaeth Cymraeg. Maent yn ymwybodol bod diffyg ymarferwyr Cymraeg yn y gwasanaeth a derbyn cymorth sydd bwysica’.
‘Roeddwn i angen triniaeth cyflym…er mwyn gallu bod y fam orau posib i fy hogyn bach. Roeddwn yn ymwybodol nad oedd amser gen i i aros i gael CPN [Nyrs Seiciatryddol Gymunedol] oedd yn medru’r Gymraeg.’
Mae pwyslais claf ar ei anghenion ieithyddol yn perthyn i’w gyflwr ar y pryd; po fwyaf bregus ei iechyd meddwl, y lleiaf tebygol yw o gydnabod bod ganddo anghenion ieithyddol.
‘Os fyse nhw yn siarad Punjabi ’sa fo ddim wedi bod llawer o ots gyda fi oherwydd o’n i jyst angen y gwasanaeth.’
Dyw ffurfio barn a gwneud penderfyniad rhesymegol am eu hangen ieithyddol ddim yn flaenoriaeth ac, o’r herwydd, dydyn nhw ddim yn debygol o fynegi eu bod yn ffafrio un iaith dros y llall.
Ond, ar yr adeg mwyaf bregus hwnnw y bydd iaith bwysicaf – pan fo perthynas therapiwtig gref a mynegiant rhwydd yn gwbl greiddiol.
‘Lle ma’ gorfod egluro dy hun o dan breshyr enfawr, lle ti newydd ’neud ’wbath rili traumatic, ti yn y lle mwyaf bregus bryd hynny, pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylai iaith fyth fod yn rhwystr.’
Yn amlwg, mae perygl fod goblygiadau meddygol pellgyrhaeddol ynghlwm wrth dderbyn gwasanaeth ail iaith. Cyfrifoldeb arbenigwyr yw deall hynny. Nid lle claf yw egluro ei hun mewn ail iaith a phwyso am yr hyn a ddylai fod yn hawl cwbl sylfaenol, yn enwedig ag yntau’n byw brwydr ddyddiol eisoes.
Angen meddygol yw iaith, yn yr un modd â’r math o therapi a ddewisir.
Fydden ni ddim yn disgwyl i glaf mewn cyflwr bregus ddweud wrthon ni pa fath o therapi y mae ei angen – CBT, DBT, ynteu person-centred counselling? Fydden ni byth chwaith yn disgwyl i unigolyn â haint ym mawd ei droed ddweud wrthon ni pa wrthfiotigau sydd eu hangen arno. Pam felly ei bod yn dderbyniol disgwyl i glaf ddweud wrthon ni y byddai derbyn gwasanaeth mewn mamiaith yn gwneud gwahaniaeth anferthol i’w profiad a’u gwellhad?
Cyfrifoldeb y darparwr – yr arbenigwr – yw deall angen ieithyddol ei glaf a sicrhau gwasanaeth sy’n caniatáu mynediad rhwydd at ei emosiynau dwysaf a’r gallu i’w hegluro’n ddi-rwystr.
Gyda chyfraddau iechyd meddwl ar gynnydd cyflym, gadewch i ni ddeffro a rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau aneffeithiol ac aneffeithlon – nid yw’n gwasanaethau iechyd meddwl yn cwrdd ag anghenion ein poblogaeth ac mae parhau heb flaenoriaethu datrysiad i’r broblem yn gwbl anghynaladwy ac yn faich drom i’n NHS amhrisiadwy.
Mae angen gweithredu’r cysyniad gwerthfawr o Gynnig Rhagweithiol i’r eithaf yn y maes hwn a sicrhau darpariaeth ieithyddol sensitif fel mater o drefn mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bob oed.