Mae Dr Sophie Ward yn ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor. Yn yr erthygl hon, mae Sophie yn trafod rhai o’r heriau sy’n wynebu cymunedau arfordirol ledled Cymru, wrth i’n hamgylchedd arfordirol newid yn gyflym mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd.
Mae Sophie yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil, gyda diddordeb arbennig mewn modelu cefnforoedd. Gan gymhwyso modelau cefnforol i ystod eang o bynciau ymchwil, mae llawer o’i gyrfa ymchwil wedi bod yn ymchwil gymhwysol yn canolbwyntio ar arfordir Cymru a moroedd Ewropeaidd ehangach. Gan geisio atebion i’r argyfwng hinsawdd presennol, mae Sophie yn defnyddio modelau cefnforol ym meysydd ynni adnewyddadwy morol (yn benodol yng Nghymru), newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr, cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan gynnwys diwydiant dyframaeth Cymru, a phrosiectau cadwraeth forol.
Mae cynnydd yn lefel y môr yn effeithio ar bobl yn fyd-eang, gan gynnwys ni yng Nghymru. Gall sgil-effeithiau y cynnydd yma ar ein harfordiroedd fod yn sylweddol; yn wir, mae yna risg i bob cymuned arfordirol yng Nghymru. Yn aml, gall traethlin naturiol ymateb i gynnydd yn lefel y môr drwy newid ei phatrwm o erydiad a dyddodiad, os nad yw’r cynnydd yn rhy gyflym. Fodd bynnag, mae pentrefi, trefi a seilwaith (e.e. ffyrdd a rheilffyrdd) wedi datblygu ar lawer o arfordir Cymru. O dan y fath amgylchiadau, ni all yr arfordir addasu yn yr un modd, ac felly, yn hanesyddol, rydym wedi ceisio rheoli’r sefyllfa drwy adeiladu amddiffynfeydd arfordirol o amgylch Cymru. Y peryg yw, gyda chynnydd yn lefel y môr yn cyflymu, ni fydd pob un o’r strwythurau yma yn ddigon. Mae penderfyniadau anodd i’w gwneud – pa bryd ddylem ni amddiffyn ‘ar unrhyw gost’, a pha bryd ddylem ni dderbyn fod colledion tir yn anochel? Mae hon yn sialens sylweddol i’r Llywodraeth, i Gyfoeth Naturiol Cymru, ac wrth gwrs, i’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio.
Beth yw’r risg i Gymru?
Pam fod lefel y môr yn codi?
Mae dau brif ffactor yn gyrru’r cynnydd cymedrig byd-eang yn lefel y môr, ac mae’r ddau ffactor yn ymwneud â newid hinsawdd. Yn gyntaf, mae dŵr ffres yn cael ei ychwanegu at ein cefnforoedd wrth i rewlifoedd a llenni iâ o’r tir doddi. Yn ail, mae dŵr yn ymchwyddo wrth iddo gynhesu ac felly gyda’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang, mae lefelau’r môr yn codi fwy byth. Mae’r ddwy elfen yma yn fwy neu lai hafal yn eu cyfraniad tuag at y codiad presennol.
Ond mae’r sefyllfa yn dwysáu. Cododd lefel cymedrig y môr drwy’r byd yn uwch yn yr 20fed ganrif nag mewn unrhyw ganrif arall dros y 3,000 blwyddyn diwethaf. Yn wir, cododd lefel cymedrig byd-eang y môr ynghynt yn 2021 nag mewn unrhyw flwyddyn arall ar gofnod. Mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd am y rhagfynegiadau i’r dyfodol ond yr amcangyfrif diweddaraf yw bod cynnydd byd-eang o hyd at tua 1 metr erbyn 2100 yn bosibl, os nad os unrhyw ymyriad yn ein hallyriadau.
Er nad yw cynnydd o ychydig filimedrau bob blwyddyn yn swnio’n fawr, o’i gyfuno gydag ymchwyddiadau storm a glawiad uchel, gall y canlyniadau fod yn ddybryd. Felly, i Gymru, gyda llawer o’n seilwaith sylfaenol a llawer o gartrefi a busnesau yn agos at yr arfordir, bydd y cynnydd sy’n cael ei ragamcanu yn lefel y môr yn amlwg yn ddinistriol. Rydym wedi gweld ambell enghraifft o hyn yn barod: yng ngogledd Cymru gyda llifogydd Towyn yn 1990 a hefyd yn achos llifogydd ar hyd arfordir Cymry yn ystod gaeafau 2013 a 2014. Bryd hynny cafodd ffyrdd a rheilffyrdd eu cau, ac roedd llifogydd mewn tai. Mae Fairbourne, er enghraifft, yn bentref sydd wedi’i adeiladu ar dir isel ar lannau Bae Ceredigion, ac mae effeithiau newid hinsawdd yn amharu ar y gymuned yn barod. Yno, mae risgiau llifogydd lluosog: o’r môr, afonydd ac hyd yn oed o’r lefelau cymharol uchel o ddŵr daear.
Pa ddewisiadau sydd gennym?
Gan fod tua 10% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd arfordirol llai na 10 metr uwchlaw lefel y môr, mae hwn yn bwnc yr ydym yn debygol o’i drafod yn llawer amlach yn y blynyddoedd i ddod. Yn amlwg, cilio o’r arfordir a chwalu cymunedau yw’r ffurf eithaf ar addasu. Fodd bynnag, mae angen inni ystyried tynged seilwaith dynol mewn cyd-destun ehangach, sef newid yn yr hinsawdd, yr arfordir sydd wedi bod yn newid yn barhaus yn y gorffennol, ac iechyd ecosystemau arfordirol naturiol. Yn ogystal, dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein dealltwriaeth o sut mae ymyrraeth i amddiffyn yr arfordir mewn un man yn gallu creu sgileffeithiau annymunol mewn ardaloedd eraill, wedi gwella. Ac felly rydym mewn sefyllfa well o ran gallu dewis a dethol rhwng gwahanol ddatrysiadau.
Mae yna ddulliau peirianyddol cadarn o amddiffyn yr arfordir, er enghraifft, codi morglawdd. Mae yna hefyd ddulliau mwy naturiol o greu amddiffynfeydd arfordirol, fel morfa heli strategol. Gyda’r dulliau mwy naturiol yma, ni fydd yr arfordir yn cael ei amddiffyn fel y mae heddiw, ond maen nhw’n fwy cyfeillgar i’r prosesau naturiol sy’n digwydd oherwydd cynnydd yn lefel y môr, fel erydiad a llifogydd. Mae’n bwysig cydnabod y bydd effeithiau ar y byd naturiol hefyd gyda chynnydd yn lefel y môr. Gyda digon o amser, efallai y bydd ardaloedd arfordirol ac ecosystemau yn cael cyfle i addasu. Ond, gyda newid hinsawdd ag gyda lefel y môr yn codi’n gyflym, rydym yn colli bioamrywiaeth.
Does dim atebion delfrydol. Mae unrhyw amddiffyniad arfordirol neu addasiad yn mynd i gyflwyno heriau a phroblemau posib i’r amgylcheddau naturiol ac adeiledig. Mae angen ystyried a chydlynu cynllun amddiffyn yr arfordir yn ofalus. Heb os, mae arfordir Cymru yn newid mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd ac mae hynny’n mynd i effeithio ar bob un ohonom.