Mae Gethin Matthews o Adran Hanes Prifysgol Abertawe yn ein tywys trwy drafodaethau cynnar am newid hinsawdd trwy gyfrwng y Gymraeg
Fel y gwŷr pawb sydd ag ychydig o hyfforddiant gwyddonol erbyn hyn, mae’r byd yn wynebu argyfwng yn y presennol a dyfodol ansicr oherwydd y newidiadau i hinsawdd y byd a achosir gan weithredoedd dynol, ac yn enwedig yr effaith tŷ gwydr. Mae’n gwestiwn diddorol – a phwysig – i ofyn pa rybuddion a gafwyd gan wyddonwyr dros y degawdau diwethaf. Cyfraniad yr archwiliad bychan hwn yw i edrych ar yr erthyglau a fu’n trafod newidiadau i’r hinsawdd yn y cylchgrawn cyfrwng Cymraeg, Y Gwyddonydd.
Lansiwyd Y Gwyddonydd yn 1963, mewn cyfnod pryd yr oedd yr iaith Gymraeg yn wynebu nifer o heriau. Roedd y canran a siaradai’r iaith wedi disgyn i 26% yn ôl cyfrifiad 1961, ac fe sbardunodd hyn weithredoedd i ddiogelu a chryfhau statws y Gymraeg. Dyma gyfnod darlledu darlith ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis a dechrau ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith, a thwf y mudiad i sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Felly pan drefnodd Prifysgol Cymru gyhoeddi cylchgrawn i drafod materion gwyddonol yn y Gymraeg roedd hyn yn ddatganiad y dylai’r iaith fod yn rhan gyflawn o’r byd modern, ac na ddylai gael ei hymylu fel cyfrwng ar gyfer trafodaethau llenyddol, diwinyddol a hynafiaethol yn unig. Ymdrechodd y cylchgrawn i gyflwyno datblygiadau a thrafodaethau cyfoes ym myd gwyddoniaeth i’r darllenwyr ac felly mae’n dybiaeth deg mai yn nhudalennau Y Gwyddonydd y gwelwyd yr ymddangosiadau cyntaf o rai ymadroddion Cymraeg sydd bellach wedi dod yn gyfarwydd i ni. Felly yn 1985 ceir dwy erthygl swmpus sy’n trafod ‘glaw asid’, tra ymddangosodd y cyfeiriad cyntaf at yr ‘haenen osôn’ y flwyddyn ganlynol.Ymddangosodd yr ymadrodd ‘effaith tŷ gwydr’ am y tro cyntaf yn Y Gwyddonydd mor gynnar â rhifyn Rhagfyr 1972, mewn erthygl a ystyriai effeithiau posibl ar yr hinsawdd gan lygredd a ddaw o weithredoedd dynol. A fyddai’r lefelau uwch o CO2 yn yr awyr yn arwain at dwf yn nhymheredd y byd, neu a fyddai’r cynnydd mewn gronynnau yn yr awyrgylch a ddaw o lygredd yn peri i fwy o belydrau’r haul gael eu hadlewyrchu yn ôl i’r gofod, yn arwain at ostyngiad yn y tymheredd? Ar y pryd nid oedd yr ateb yn glir, ac felly cyfeirir at yr ‘effaith tŷ gwydr’ fel ‘damcaniaeth’. Un ffactor newydd i’w hystyried oedd y twf disgwyliedig mewn teithiau gan awyrennau uwchsonig, yn arllwys SO2 ac anwedd dŵr i haenau uwch yr amgylchedd – nid oedd modd darogan effeithiau hynny ar yr hinsawdd. Mae’n debyg mai’r driniaeth nesaf o’r pwnc yn Y Gwyddonydd oedd yn Rhagfyr 1981, pan drafodwyd erthygl ddiweddar John Gribbin yn y New Scientist. Roedd yntau yn awgrymu y byddai’r twf yn yr effaith tŷ gwydr yn sgil y cynnydd yn y lefel o CO2 yn yr awyr yn arwain at godi tymheredd y byd 2 i 3 °C erbyn 2025, yn ôl y modelau cyfrifiadurol gorau oedd ar gael. Ystyriodd yr erthygl effeithiau hyn ar gynnyrch bwyd yn fyd-eang, gan fras-awgrymu’r helbulon gwleidyddol a fyddai’n dilyn. Y casgliad yw bod amser yn ein herbyn.Yn y rhifyn nesaf ceir testun araith Dr Eirwen Gwynn oddi ar lwyfan y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol 1981, lle mae hithau’n rhybuddio am yr effeithiau andwyol a ddeuai pe bai’r ddynoliaeth yn parhau i losgi tanwydd ffosil yn ddi-hid. (Yn ddiddorol, er iddi fod yn frwd dros ynni niwclear yn ôl yn rhifyn cyntaf Y Gwyddonydd yn 1963, erbyn 1981 mae’n datgan nad egni atomig yw’r ateb).Y tro nesaf ceir trafodaeth o’r effaith tŷ gwydr yw yn hwyr yn 1988, mewn erthygl sydd â’r teitl ‘Hinsawdd Newydd i’r Byd’. (Ymddengys nad yw’r ymadrodd cyfredol, ‘newid hinsawdd’ yn cael ei ddefnyddio yn Y Gwyddonydd i drafod cynhesu byd-eang). Fel mae’n digwydd, fe ddaw’r dystiolaeth gyntaf sydd gen i o ystyriaeth o’r pwnc yn y cyfryngau Cymraeg tua’r un adeg, gyda rhaglen ‘Manylu’ ar Radio Cymru yn trafod yr effaith tŷ gwydr ac ‘effeithiau gorgynhesu ar y ddaear’ ym mis Tachwedd 1988. Yn 1990, fe gyhoeddodd Y Gwyddonydd eglurhad manwl o’r wyddoniaeth sy’n sail i’r effaith tŷ gwydr gan Dr Geraint Vaughan, ffisegydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r casgliad yn ddi-flewyn-ar-dafod:
Y neges i gloi yw bod dynoliaeth yn awr yn cynnal arbrawf gwyddonol enfawr â hinsawdd ei blaned ei hun, heb ddeall y canlyniadau na pharatoi amdanynt. Dim ond un ddaear sydd gennym, ac os na fedrwn ei gwarchod ein plant fydd yn ddioddef. Er gwaethaf yr holl ansicrwydd, ffôl iawn fyddai anwybyddu ofnau’r hinsoddegwyr a pharhau’n ddi-derfyn i ollwng nwyon tŷ gwydr i mewn i’r atmosffer.
O hyn ymlaen ceir nifer o erthyglau yn y cylchgrawn yn trafod effeithiau tebyg cynhesu byd-eang ar y planed, sydd yn glir iawn eu rhybuddion am y peryglon. Yn niwedd 1991, er enghraifft, mae pennawd erthygl gan Dylan Gwynn Jones yn addasu geiriau cerdd gan Llywarch Hen i roi’r rhybudd ‘Truan o Dynged a Dyngwyd i Ddynoliaeth’. Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o raglenni ar y sianeli radio a theledu Cymraeg sydd yn ceisio egluro’r bygythiadau. Felly mae’r dystiolaeth fan hyn yn ddiamheuol. Yn y sffêr gyhoeddus Cymraeg, roedd peryglon cynhesu byd-eang yn cael eu deall, a’u trafod yn agored, erbyn y 1990au cynnar. Roedd darogan y gwyddonwyr fwy-neu-lai yn gywir am y cynnydd yn nhymheredd y byd a’r goblygiadau. Wrth i ni agosáu at 2025 fe allwn fod yn ddiolchgar fod y rhagwelediad a wnaethpwyd yn 1981, o gynnydd mewn tymheredd o 2-3 °C ychydig yn waeth na’r realiti, ond fe ddylai’r dinistr i systemau’r byd a ddaw o gynnydd o 1.5 °C beri braw i ni i gyd. Rhoddwyd rhybudd rhyw 42 o flynyddoedd yn ôl bod amser yn prinhau i atal datblygiad sefyllfa hunllefus ac fe dderbyniodd sylw. Y cwestiwn sy’n dilyn yw paham na chymerwyd y sylw priodol o’r rhybuddion gan y gwyddonwyr? Mae trafod hynny y tu hwnt i sgôp yr erthygl fer hon, ond mae’n gwestiwn y dylid ei ofyn.
Er mwyn darllen mwy o erthyglau academaidd, ewch i wefan Gwerddon.