Yn yr erthygl hon mae Giuseppe Forino a’r tîm o Brifysgol Bangor yn trafod yr angen am gynnwys persbectif pobl wrth ddeall effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth ddiwylliannol.
Mae treftadaeth ddiwylliannol yn rhan o’n bywyd bob dydd. Nid dim ond henebion enwog, tirnodau ac atyniadau i dwristiaid yw’r dreftadaeth honno. Yn ogystal, ac efallai’n bennaf oll, treftadaeth ddiwylliannol yw’r dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol honno sy’n gyfarwydd i ni ac sy’n cael ei chydnabod yn lleol fel agwedd bwysig ar fywyd bob dydd. Gall fod yn fan cyfarfod gyda ffrindiau, yn llwybr lle rydym ni’n mynd am dro, yn draeth lle rydym ni’n mwynhau’r olygfa, yr awyrgylch, neu hyd yn oed y distawrwydd. Gall hefyd fod yn farchnad fechan wythnosol, yn weithred frodorol gymunedol, yn hen sgwâr yng nghanol y dre, yn dirwedd, a hyd yn oed yn un goeden ar ei phen ei hun.
Fel rhan o’n bywyd bob dydd, mae treftadaeth ddiwylliannol yn agored i effeithiau posibl peryglon sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, er enghraifft effeithiau ffisegol ac amgylcheddol gan ddigwyddiadau eithafol. Felly, y tu hwnt i golled ddiriaethol gall y peryglon hyn hefyd arwain at golli gwybodaeth, arferion, a sgiliau lleol – popeth sy’n sicrhau parhad treftadaeth ddiwylliannol fel rhan o fywyd beunyddiol pobl.
Nid yw gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn golygu ystyried gwerth economaidd yn unig felly (e.e., incwm twristiaeth) ond hefyd ei swyddogaeth gymdeithasol a diwylliannol wrth lunio hunaniaeth leol a bywyd bob dydd. Nid yw treftadaeth ddiwylliannol gogledd Cymru, gyda’i thirnodau, arfordiroedd, tirweddau a threfi trawiadol yn eithriad.
Newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol o safbwynt pobl leol
Roedd “Climate Change, Cultural Heritage and Communication in North Wales (Clicher)” yn broject rhyngddisgyblaethol gyda’r nod o ymchwilio i’r berthynas rhwng newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol yng ngogledd Cymru. Trefnwyd cyfres o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr, a chymunedau lleol. Cynhaliwyd dau weithdy ym mis Chwefror (ym Mhlas Tan y Bwlch, Parc Cenedlaethol Eryri) a digwyddiad allestyn terfynol ym mis Mawrth (ym Mhrifysgol Bangor), gyda thua 70 yn cymryd rhan.
Ymchwiliodd y cyfranogwyr i’w profiadau (bob dydd) a’u canfyddiadau eu hunain o newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol, a’u rhannu gyda’i gilydd. Buont hefyd yn trafod sut allai newid hinsawdd yn ei wahanol agweddau effeithio ar ddiwylliant (e.e., newidiadau ffisegol, newidiadau cymdeithasol, seilwaith) a sut y dylem ni ystyried realiti lleol yn well wrth drafod materion newid hinsawdd gyda chynulleidfaoedd mawr.
Amlygodd y cyfranogwyr eu hymlyniad at dreftadaeth ddiwylliannol gogledd Cymru, nid yn unig i’r prif fannau hynny a ddaeth yn gyrchfannau i dwristiaid dros y ganrif/degawdau diwethaf (e.e. cestyll, traethau a threfi a phentrefi fel Llandudno, Biwmares, Abersoch, a’r Bermo), ond yn bennaf y mannau hynny lle maent yn byw eu bywydau bob dydd, boed hynny’n sgwâr bach y dre, cornel ddiddan yn y pentref neu lwybr y mae pobl yn ei ddefnyddio i ymarfer corff neu fynd am dro gyda ffrindiau neu gŵn.
Mae cyfranogwyr yn ymwybodol o faterion hinsawdd lleol a byd-eang; camgymeriad yw credu mai dim ond “arbenigwyr” hinsawdd sy’n gwybod am faterion newid hinsawdd (cf. Næss, 2013). Mae cyfranogwyr hefyd eisoes yn gwneud rhywbeth i ymateb i newid hinsawdd. Er enghraifft, mae rhai cymunedau yn cydweithio i gadw eu cymdogaethau mewn cyflwr da – maent yn glanhau traethau lle maent yn mynd am dro, yn gweithredu ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd i gefnogi pobl mewn angen yn lleol, ac yn gweithio’n agos gyda llunwyr polisi lleol i drafod materion lleol. Mae’r rhain yn gamau gweithredu a all gyfrannu’n helaeth at ymateb i newid hinsawdd, yn ogystal â diogelu treftadaeth ddiwylliannol, er efallai nad yw’r cyfranogwyr wedi rhoi’r labeli hynny arnynt.
Ochr yn ochr â straeon cyfareddol y cyfranogwyr roedd cyfraniad arbennig dau arlunydd (MorethanMinutes), a gofnododd y gweithdai ar ffurf graffeg ac a greodd ddau lun (gweler isod). Trwy wrando ar drafodaethau’r dydd, rhoddodd artistiaid MorethanMinutes fyfyrdodau y diwrnod hwnnw ar bapur a chrynhoi pwyntiau defnyddiol ar gyfer y drafodaeth yn y digwyddiad allestyn.
Cyfathrebu cynhwysol a llai confensiynol
Credwn i straeon a sylwadau’r cyfranogwyr ein goleuo am newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol. Dywedodd y cyfranogwyr yr hoffent ran fwy mewn ymchwil a pholisïau ynghylch newid hinsawdd. Mae arnynt eisiau gwybod mwy gan ymchwilwyr, a gweithio mwy gyda’r agenda bolisi ar wahanol raddfeydd. Fodd bynnag, ni all y cyfathrebu hwn fod o’r brig i lawr yn unig ac ni all ddibynnu ar ddim ond data, posibiliadau a rhagamcanion am yr hinsawdd. Mae cyfranogwyr eisiau dweud eu dweud ac eisiau rhannu eu gwybodaeth werthfawr ac arbenigol hefyd. At hyn, mae arnyn nhw eisiau dibynnu ar ddulliau cyfathrebu llai confensiynol fel y dychymyg a’r celfyddydau. Mae data ar yr hinsawdd yn bwysig, ond i gyfathrebu’n fwy effeithiol mae angen rhannu’r data hwnnw yn wahanol, nid dim ond yn unol â safonau academaidd sych.
Yn wir, tynnodd y cyfranogwyr sylw at yr angen dybryd i ganfod ffyrdd o drafod y pynciau hyn (e.e., adrodd straeon a phrofiadau) yn hytrach na chyflwyno data am yr hinsawdd yn unig. Mae’r data hyn yn amlwg yn bwysig – dyma sylfaen ein gwybodaeth am yr hinsawdd, ond mae gwrando ar bobl yn eu bröydd hefyd yn fodd o ganfod ffyrdd amgen a mwy hygyrch o gyfathrebu y tu hwnt i gyhoeddiadau neu ddata academaidd. Roedd cyfranogwyr yn gweld y ffordd hon o archwilio materion yn ddefnyddiol ac yn fwy diddorol, a gobeithio y gall ymchwil academaidd hefyd ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu hyn.
Straeon bywyd beunyddiol fel data
Y tu hwnt i ddata am yr hinsawdd ac effeithiau ffisegol, mae angen inni ddeall materion ar lawr gwlad drwy gynnwys pobl amrywiol. Mae adrodd straeon a phrofiadau byw pobl yn cyfrif. Nid oes angen eu rhamanteiddio, ond maent yr un mor berthnasol â data am yr hinsawdd. Maent yn taflu goleuni unigryw ar newid gwleidyddol a diwylliannol sy’n gweld polisi’n datblygu y tu hwnt i ddulliau technocrataidd a thuag at ddealltwriaeth o’r byd a’i anghyfiawnder sy’n fwy seiliedig ar fywyd beunyddiol. Yn ogystal, gwelwyd bod gwerth aruthrol i’r celfyddydau a darluniau fel strategaeth gyfathrebu y tu allan i’r byd academaidd, a chredwn fod yn rhaid dilyn y dulliau hyn wrth drafod newid hinsawdd a’r peryglon cysylltiedig.
Mae mwy o angen gweithio mewn ffordd eangfrydig, nid yn unig o ran rhai disgyblaethau academaidd ond y tu allan i’r academi hefyd. Dylai dulliau amlddisgyblaethol sicrhau bod heriau byd-eang hyn yn cael eu hystyried yn y modd ehangaf posib. Mae’n rhaid i ni barhau i sicrhau bod llais i’r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein cymunedau ochr yn ochr â’r cyrff allweddol hynny sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd (h.y. llywodraethu lleol) ac yn gymaint rhan o’r trafodaethau. Trwy ddefnyddio dulliau amlochrog a chynhwysol y cawn hyd i’r atebion i’r heriau sy’n ein hwynebu!
Ymddangosodd fersiwn wreiddiol yr erthygl hon ar https://blog.geographydirections.com/2023/06/28/the-need-for-a-peoples-perspective-when-exploring-climate-change-and-cultural-heritage/
Cefnogwyd y gwaith a drafodir yn y blog hwn gan grant Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ar gyfer project Clicher. Mae’r awduron yn ddiolchgar i Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor a Hywel Griffiths am eu cymorth wrth lunio’r erthygl hon.