“It has been an uphill battle from the get-go. Living on the breadline with no help whilst studying 35 hours a week and working 30 hours a week, then caring for a child on top of that is no way to live. Everyone should have the right to education.” (Ymateb holiadur, Ebrill 2021)
Er bod teuluoedd rhieni sengl yn cyfrif am un o bob pedwar teulu yn y Deyrnas Unedig (Gingerbread 2019), awgryma ymchwil diweddar bod myfyrwyr sy’n rhieni sengl yn wynebu heriau penodol wrth geisio mynychu a chwblhau addysg uwch (Byrne & Flood 2006; UCU 2009; Hinton-Smith 2012). Mae’r erthygl fer hon yn tynnu ar dystiolaeth a gasglwyd rhwng Ebrill a Mehefin 2021, o brosiect ymchwil dulliau cymysg dros gyfnod o tri mis gyda 101 o fyfyrwyr rhieni sengl. Bwriad y prosiect oedd i archwilio ystyr bod yn rhiant sengl yn astudio mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. Amlygodd yr ymchwil ddwy thema allweddol: y pwysau personol yr oedd y pandemig yn ei osod ar fyfyrwyr rhieni sengl o ran amser, arian, a gofal plant; ac arwyddocâd cefnogaeth gan y prifysgolion a gan gyd-fyfyrwyr ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig.
Yn gyntaf, dangosodd yr ymchwil sut roedd cyfyngiadau’r pandemig a’r angen i jyglo cyfrifoldebau cystadleuol neu “spinning multiple plates” wedi cynyddu’r pwysau ar fyfyrwyr rhieni sengl. Gellir dadlau mai’r ffactor mwyaf arwyddocaol a gynyddodd y pwysau personol ar fyfyrwyr rhieni sengl yn ystod y pandemig oedd cau cyfleusterau gofal plant ag ysgolion, yn ogystal â’r cyfyngiadau ar gyswllt traws-teulu ym mis Mawrth 2020 (Long 2020; Trotter 2021). Roedd y pwysau personol ychwanegol hyn yn ymwneud â diffyg gofal plant, amser ac arian, ac yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol myfyrwyr rhieni sengl – a oedd yn ei dro yn effeithio ar eu hastudiaethau. Fel y dywedodd un cyfranogwr wrthym: “Mae fy merch yn cymryd fy holl egni ac nid oes gennyf brain juice ar ôl i hyd yn oed geisio gorffen fy astudiaethau […] Rydw i wedi blino’n emosiynol ac ar hyn o bryd yn brwydro am fwy o amser i gwblhau fy astudiaethau”. Tynnodd y cyfranogwyr sylw at y “baich ariannol” o “roi’r gorau i swydd i astudio’n llawn amser”, ac “arian” fel her allweddol gyda sawl un yn nodi bod gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau yn hanfodol “er mwyn talu biliau”. Cafodd yr heriau hyn effaith ar gyflwyno aseiniadau ac ar ymgysylltiad y myfyrwyr gyda eu astiduaethau (UCU 2009). Oherwydd y pwysau personol enfawr a roddwyd arnynt, roedd llawer o’r myfyrwyr rhieni sengl wedi oedi neu wedi meddwl am adael eu hastudiaethau yn ystod y cyfnodau clo. Nododd un cyfranogwr fod “completing my PhD has been delayed by almost a year now”, a dywedodd un arall ei fod wedi “[cymryd] toriad ar ei astudiaethau wrth i ysgolion a gofal plant gau”.
Roedd y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr rhieni sengl yn eu prifysgol yn anghyson o fewn – ac ar draws – prifysgolion (NUS 2009; Moreau & Kerner 2012). O ran cymorth personol, nid oedd cyfleusterau gofal plant bob amser ar gael ar y campws, a phan oeddent, roeddent yn aml naill ai’n llawn neu’n rhy ddrud i fyfyrwyr rhieni sengl. Roedd cymorth academaidd yn aml yn dibynnu ar berthnasoedd myfyrwyr ag aelodau unigol o staff neu ar ethos adrannau academaidd unigol, yn hytrach na bod polisïau sefydliadol clir a chymorth yn eu lle – y tu hwnt, er enghraifft, i wasanaethau cymorth i fyfyrwyr a cheisiadau am amgylchiadau arbennig – i gefnogi myfyrwyr rhieni sengl (UCU 2009). Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn cydnabod fod cymorth gan gymheiriaid yn amhrisiadwy o ran cefnogi eu lles a’u hastudiaethau. Fodd bynnag, roedd hyn yn aml yn dibynnu ar y myfyrwyr eu hunain yn sefydlu grŵp cymorth neu gymdeithasol, a oedd yn anochel yn dod yn anghynaliadwy oherwydd cyfyngiadau amser a’r pwysau personol ychwanegol.
Er bod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu llawer o faterion i fyfyrwyr rhieni sengl, mae’n bwysig cydnabod nad yw’r materion hyn yn newydd (gweler, er enghraifft, NUS 2009; Hinton-Smith 2012). Fel y dywedodd un cyfranogwr, “Rwy’n teimlo nad yw’r brifysgol erioed wedi ystyried yr hyn sydd ei angen ar rieni”. Felly, beth yw’r newidiadau allweddol y gallai prifysgolion eu hystyried i wneud astudio a bod yn rhiant sengl yn brofiad gwell i’n myfyrwyr?
- Mae angen i ni nodi pwy yw ein myfyrwyr sy’n rhieni. Er bod ymgeiswyr yn cael eu annog i nodi i’r brifysgol eu bod yn rhieni yn eu datganiadau personol, mae stigma ynghylch bod yn rhiant sengl, ac mae hyn yn aml yn atal myfyrwyr rhag datgelu’r wybodaeth hyn (NUS 2009; Hinton-Smith 2012). Byddai casglu data ar fyfyrwyr sy’n rhieni yn galluogi cymorth wedi’i deilwra drwy wasanaethau cymorth i fyfyrwyr.
- Mae grwpiau cymorth a chymdeithasol yn fuddiol i fyfyrwyr sy’n rhieni, ond nid oes ganddynt amser i drefnu’r grwpiau eu hunain. Dylai prifysgolion weithio gydag Undebau Myfyrwyr i sicrhau gweithgareddau glasfyfyrwyr cyfeillgar i rieni a grwpiau cymdeithasol parhaus i fyfyrwyr sy’n rhieni.
- Dywedodd rhieni eu bod yn teimlo nad oedd croeso iddynt ar y campws, gyda diffyg gofal plant yn broblem iddynt wrth ceisio cwblhau eu astudiaethau. Dylai prifysgolion wneud newidiadau i le ar y campws, gan gynnwys cyflwyno gofal plant hygyrch, hyblyg, am bris gostyngol ar y campws, ystafelloedd rhieni a babanod, a chyfleusterau newid babanod.
Cafodd y gwaith hwn ei ariannu gan Gronfa Ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Diolch i Alex Hird (myfyriwr PhD, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth) a Michelle Evans (myfyriwr PhD, Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth) am eu gwaith fel cynorthwywyr ymchwil ar y prosiect hwn. Cafodd y papur hwn ei gyflwyno yn Seminar Ymchwil yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth ym mis Tachwedd 2021, a diolchaf i fynychwyr y seminar honno am eu sylwadau defnyddiol. Diolch arbennig i’r myfyrwyr rhiant sengl ysbrydoledig a gymerodd ran yn y prosiect ymchwil hwn.
- Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.