Mae Dr Siwan Roberts o Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor yn fyfyrwraig PhD sy’n archwilio’r berthynas rhwng adfyd cynnar a datblygiad empathi mewn plant a rhieni. Mae hi hefyd yn Seicolegydd Clinigol rhan-amser yn y Gwasanaeth Iechyd.
Gydag amcangyfrifon fod cynnydd o ryw 25% i 27% yn nifer yr achosion o iselder a gor-bryder ers pandemig COVID-19 (e.e. World Health Organisation, 2022), ymddengys fod derbyn diagnosis o salwch meddwl yn fwy cyffredin nag erioed. Ai gwell ymwybyddiaeth yw’r rheswm am hyn, neu a yw’r cynnydd yn arwydd o newid yn y ffyrdd ydym yn byw a’r adfyd gwleidyddol-gymdeithasol yr ydym wedi ei brofi?
Yn ôl tystiolaeth, a thrwy fy mhrofiadau a’m dealltwriaeth, credaf fod perthynas gref rhwng cyd-destun cymdeithasol, ein hanes a’n profiadau, a’n hiechyd meddwl. Fel y dywedodd Dr Eleanor Longden yn ei sgwrs TED yn 2013, dylid newid ein pwyslais o ofyn “Beth sy’n bod â thi?” i ofyn, yn hytrach, “Beth ddigwyddodd i ti?” (Longden, 2013).
Adfyd yn ystod plentyndod
Mae’n wir fod llawer o adnoddau yn cael eu gwario ar ganfod pa ddiagnosis sy’n gweddu orau i blant ac oedolion sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl, ond llai efallai ar ddeall eu profiadau. Torrodd grŵp o feddygon o UDA dir newydd yn y 1990au drwy eu hastudiaethau o brofiadau o adfyd mewn plentyndod, astudiaethau ‘Adverse Childhood Experiences’ (ACEs) sydd bellach yn adnabyddus yn y maes (Felitti et al., 1998). Yn ddiddorol, dim ond yn ddiweddar y cafodd canlyniadau’r ymchwil gydnabyddiaeth. Yn eu harolwg o dros 17, 000 o bobl, canfuwyd fod tua dau draean o’r boblogaeth wedi profi un o’r mathau o adfyd a restrwyd (yn cynnwys cam-driniaeth, a/neu camweithrediad yn y cartref) (Felitti et al., 1998). Yn wir, pan welodd Dr Robert Anda (un o’r cyd-awduron) y canlyniadau yma ar ei fas data, fe wylodd, “I saw how much people had suffered and I wept” (Stevens, 2012, tud. 1).
Yr ail beth pwysig a amlygwyd gan y gyfres yma o astudiaethau oedd y berthynas rhwng y nifer o ACEs yr oedd person wedi eu profi a’u hiechyd fel oedolyn. Roedd y canlyniadau hyn yn drawiadol. O’u cymharu ag unigolion nad oedd ganddynt ACE, roedd pobl gyda phedwar ACE neu fwy yn 2.3 gwaith fwy tebygol o fod â Llid yr Afu (Hepitatis), 3.9 gwaith yn fwy tebygol o fod â Broncitis, a 12 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi ceisio lladd eu hunain (Felitti et al., 1998). Yn wir, roedd perthynas arwyddocaol rhwng y nifer o ACEs â brofwyd ac ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl a chorfforol.
Yn fwy diweddar, cynhalwyd arolwg o ACEs yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2015). Holwyd dros 2,000 o oedolion ac adroddwyd fod 53% wedi profi adfyd fel plentyn, a 14% wedi profi 4 neu fwy math gwahanol o ACE (e.e. Rhieni yn gwahanu, trais yn y cartref, salwch meddwl yn y cartref, camdriniaeth rhywiol ayyb.). Yn gyson â’r ymchwil gwreiddiol, roedd yr oedolion yng Nghymru â chanddynt fwy o ACEs yn fwy tebygol o fod yn dioddef o gyflyrau iechyd corfforol, seicolegol a/neu broblemau cymdeithasol.
Er bod cymaint o wersi epidemiolegol i’w dysgu o’r canlyniadau, ni ddylid poeni unigolion sydd wedi profi ACEs na pheri iddynt gredu fod problemau iechyd yn anochel. Ni ddylid chwaith gredu mai y profiadau ar y rhestr yw’r unig bethau anodd neu drawmatig a all pobl brofi. Beth am dlodi, hiliaeth, ormes neu ryfel er enghraifft? Dim ond trosolwg bras o’u bywyd all nifer ACEs unigolyn ei roi i ni, nid gwybodaeth ystyrlon am arwyddocâd y profiadau rheiny i’r person dan sylw. Mae’n bwysig pwysleisio hynny gan fod gofid y gallai sefydliadau gam-ddefnyddio data ACEs (Anda et al., 2020).
Ar lefel unigol, gall cryfderau person a’u perthnasau iach ag eraill helpu i oresgyn sgileffeithiau negyddol profiadau adfyd cynnar. Serch hyn oll, mae codi ymwybyddiaeth unigolyn o’r berthynas rhwng eu profiadau cynnar (heb orfod datgelu manylion am rheiny) a’u hiechyd presennol yn debyg o fod yn adeiladol. Pan mae’r amser yn iawn, ac mewn gofod saff (e.e. sesiynau therapi), gall siarad am y profiadau fod yn llesol. Gall dynnu ar ddulliau neu therapïau creadigol drwy ddefnydd dawns, arlunio, gerddoriaeth neu ysgrifennu (e.e. Malchiodi, 2020) hefyd fod yn fuddiol. Mae’n debyg fod hyn yn ddadl dros sicrhau bod cyfleoedd i fod yn greadigol yn ein cymunedau.
Fframwaith newydd
Codi ymwybyddiaeth rhwng ein profiadau cynnar â’n hiechyd meddwl presennol oedd nôd y fframwaith ‘Power-Threat-Meaning’; gwaith dadleuol â gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig (Johnstone a Boyle, 2018). Gan gydnabod fod cael diagnosis wedi bod yn brofiad positif i rai, mae’r fframwaith yn cynnig dull amgen o ddeall salwch meddwl sy’n herio’r model diagnostig traddodiadol. Trwy archwilio sut mae pŵer wedi gweithredu ym mywydau unigolion, mae’r awduron a’r cyfranogwyr (cyfuniad o seicolegyddion, seiciatryddion a phobl â phrofiad o salwch meddwl), yn dadlau y gellid cyd-ddeall anhwylderau emosiynol dwys unigolion heb ddiagnsois, ac yn hytrach ar ffurf fformiwleiddiad neu naratif. Caiff y fframwaith ei weithredu drwy bedwar cwestiwn allweddol, sef 1. Beth ddigwyddodd i chi? 2. Sut effeithiodd hyn arnoch?, 3. Pa synnwyr wnaethoch o’r peth?, a 4. Beth oedd rhaid i chi wneud i oroesi? (Johnstone a Boyle, 2018). Er nad yw’r fframwaith (hyd yma) yn ddull prif ffrwd o weithredu, mae wedi ennyn cefnogaeth ymysg llunwyr polisi, clinigwyr a phobl â phrofiad o salwch meddwl.
Datrysiadau Cymunedol
Yng Nghymru, gyda cyhoeddiad y ddogfen Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2022), mae pwyslais newydd ar ddatblygu ymagwedd sydd yn ystyriol o drawma (trauma-informed). Er nad yw pawb wedi profi trawma, mae pawb wedi cael plentyndod, perthnasoedd a heriau. Felly, credaf mai’r egwyddor yn y bôn yw fod modd i ni ddeall ein hunain drwy roi sylw i’n perthnasoedd a’n profiadau cynharaf. Mae gweithredu’n ystyriol o drawma hefyd yn pwysleisio trin pawb â charedigrwydd, gan sylweddoli nad ydym yn gwybod pa frwydrau personol sy’n eu hwynebu. Dylid rhoi pwyslais felly ar les staff a gofalwyr hefyd gan greu gofodau saff a chyffyrddus iddynt ymlacio, ymarfer corff a/neu brosesu pethau anodd. Yn y ddogfen, mae pwyslais ar hyrwyddo ein cysylltedd â chryfderau personol, a hybu perthnasoedd cefnogol gyda chyfoedion, teulu a’r gymuned (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2022).
O ran ymyraethau clinigol sy’n ystyriol o drawma, cefais fy ysbrydoli gan waith arloesol y Pediatregydd Dr Nadine Burke-Harris. Sefydlwyd ei chanolfan, Center for Youth Wellness, yn Bayview, San Fransisco yn 2007, ac ers hynny mae’r ganolfan wedi bod yn gwneud cysylltiadau rhwng adfyd plant â’u hiechyd yn eglur i’w cleifion. Yn nes adref, rwy’n falch fod ymyraethau fel Roots of Empathy wedi eu cynnal mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’n rhaglen sy’n cynyddu gallu plant i ddeall teimladau eraill, ac felly’n cryfhau eu cysylltiad ag eraill yn eu cymuned. Mae’r rhaglen Circle of Security sy’n cael ei redeg gyda rhieni hefyd yn ystyriol o drawma. Mae engreifftiau pellach o waith cymunedol sy’n ystyriol o drawma gan sefydliadau yng Nghymru (e.e. Platfform), ac mae dogfennau iechyd o Gymru, megis fframwaith NYTH, hefyd yn pwysleisio ystyriaeth o drawma. Ymddengys fod Cymru yn dynn ar sodlau yr Alban sydd eisioes wedi cyflawni llawer i’r perwyl o fod yn “ACE informed nation”.
Wrth ddatblygu ymagwedd ystyriol o drawma, rydym yn ail-fframio ein dealltwriaeth o salwch meddwl, ac nid pawb, efallai, sy’n croesawu’r newid. Fodd bynnag, gall y newid leihau stigma. Mae iechyd meddwl yn fregus, a mae hynny yn gyffredin i ni gyd. Wrth ddeall gwir brofiadau unigolion eraill (neu o leiaf tybio beth y gallen nhw fod), rydym yn ymateb i’w hanawsterau presennol gyda thosturi, heb feiriniadu. Adnabodd Dr Nadine Burke-Harris ein tueddiad i gadw problemau iechyd meddwl fel pethau sy’n digwydd “iddyn nhw, draw yn fanna” yn ei sgwrs TED. Dyna un rheswm, efallai, am yr oedi yn ein cydnabyddiaeth o astudiaethau ACEs. Gall cydnabod yr oblygiadau olygu dod wyneb yn wyneb â’n hadfyd ein hunain. I lawer, mae hyn yn broses boenus, ac mae angen gofod saff a pherthnasoedd cadarn i afael ynom pan ddaw’r amser i brosesu ein profiadau cynnar. Wrth wynebu’r boen, fodd bynnag, gyda chefnogaeth cymuned, gallwn roi’r gorau i ‘oroesi’, a dechrau ar daith iachâd.
Os cawsoch eich heffeithio gan unrhywbeth yn yr erthygl, cofiwch; ymarfer hunan ofal, drafod gyda gofalwr iechyd, neu gysylltu gyda’r Samariaid.
Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.