Mae’n bleser mawr gan Gwerddon Fach gyhoeddi erthygl wyddonol fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Ynddi mae Michael Williams yn trafod heriau ymwrthedd gwrthfiotig.

Mae cyflwyno gwrthfiotigion, moddion sydd yn gallu lladd neu rwystro twf bacteria, wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth leihau mynychder clefydon heintus byd-eang. Darganfuwyd yn fuan allu bacteria i newid a datblygu ymwrthedd gwrthfiotig, ac roedd hyn yn broblem a oedd yn gofyn i wyddonwyr ddod o hyd i wrthfiotigau newydd neu newid gwrthfiotigau presennol i oresgyn y bacteria gwrthiannol. Fe gafodd y gwrthfiotig naturiol cyntaf, penisilin, ei ddarganfod gan Alexander Fleming yn Llundain yn 1928. O ganlyniad i gydweithrediad rhwng gwyddonwyr ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau cynhyrchwyd penisilin pur yn yr Unol Daleithiau, a defnyddiwyd ef  yn y Rhyfel Byd Cyntaf i achub miloedd o fywydau milwyr wedi’u hanafu ar gae’r frwydr, a hefyd y rheini oedd yn dioddef o glefydau gwenerol fel gonorrhoea. Derbyniodd Fleming a dau wyddonydd, Florey a Chain o Brifysgol Rhydychen, y Wobr Nobel am Feddygaeth yn 1945 am eu gwaith.

Yn dilyn hyn, yn yr hyn a elwid “yn oes aur o ddarganfyddiad gwrthfiotig”, crewyd sawl ffurf wedi’u haddasu o benisilin a darganfyddiad gwrthfiotigau eraill fel streptomycin, erythromycin, cephalosporin, a vancomycin i enwi ond ychydig. Rhwng 1935 a 1968 fe lansiwyd 12 ffurf newydd o wrthfiotigau ond cafodd cymharol ychydig eu lansio ers hynny. Yn y cyfamser mae ymwrthedd gwrthfiotig wedi cynyddu. Roedd Fleming ei hunan wedi rhagweld posibilrwydd ymwrthedd gwrthfiotig yn ei anerchiad wrth dderbyn y Wobr Nobel pan ddywedodd y byddai’r amser yn dod pan all unrhyw un brynu penisilin mewn siopau. Wedyn mae yna berygl gall dyn anwybodus roi dogn rhy wan o benisilin iddo’i hunan a thrwy hynny adael y bacteria ddatblygu ymwrthedd oherwydd bod y dogn ddim yn ddigon i ladd y bacteria i gyd.

Mae astudiaeth1 o gleifion allanol mewn 18 gwlad yn yr EU (Undeb Ewropeaidd) wedi darganfod cydberthynas uchel rhwng defnyddio gwrthfiotigau a lefel y bacertiwm Streptococcus pneumoniae. Roedd defnyddio penisilin yn Ffrainc bedair waith yn uwch nag yn yr Iseldiroedd, ac roedd lefelau’r bacteria yn  llawer uwch yn Ffrainc nag yn yr Iseldiroedd. Amlygwyd gorddefnydd o wrthfiotigau fel hyrwyddwyr twf ar gyfer anifeiliaid mewn papur diweddar, a adroddodd gynnydd ymwrthedd gwrthfiotig yn enwedig yn Tsieina ac India. Mae’n bryder bod bacteria gwrthiannol wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn dolffiniaid a thrwy hynny wedi codi’r posibilrwydd y gallai pobl sy’n bwyta pysgod amrwd neu bysgod heb eu coginio yn ddigonol fynd yn sâl3.

Mae’r ystadegaeth canlynol yn dangos difrifoldeb y broblem:

  • darganfuwyd 19 bacteria gwrthiannol yn y degawd diwethaf;
  • arweiniodd 671,689 o heintiau a achosir gan facteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau at farwolaeth 33,110 yn 2015 yn yr EU a’r EEA (Ardal Economaidd Ewropeaidd)4;
  • mae’r UN (Cenhedloedd Unedig) wedi amcangyfrif bydd 10 miliwn o farwolaethau yn digwydd erbyn 2050 o ganlyniad i heintiau sy’n gwrthsefyll cyffuriau os na chymerir unrhyw weithred;
  • mae 193 o wledydd wedi llofnodi datganiad yr UN i fynd i’r afael â bygythiad lefelau uwch o wrthfiotigau.

Mae’n cymryd sawl blwyddyn a llawer o fuddsoddiad i ddatblygu a phrofi gwrthfiotig newydd, felly mae llai o gwmnïau yn gweithio yn y maes hwn. Oherwydd bod gwrthfiotigau yn gweithio mor dda a mor gyflym maent yn rhoi enillion isel ar fuddsoddiad i’r gwneuthurwyr. Mewn gwrthgyferbyniad, mae moddion sy’n cael eu defnyddio i drin afiechydon cronig yn fwy proffidiol. Yn yr Unol Daleithiau rhwng 2010 a 2014 dim ond 1.2% o wariant gan NIH (Sefydliad Iechyd Cenedlaethol) oedd ar ymwrthedd gwrthfeicrobiadd; dosbarthid y rhan fwyaf i ganser5.

Yn ôl adroddiad WHO (Sefydliad Iechyd y Byd) yn 2014 ymwrthedd gwrthfiotig nawr yw’r prif fygythiad i iechyd y cyhoedd ac mae PHE (Iechyd Cyhoeddus Lloegr) wedi amcangyfrif bod 52,971 o afiechydon wedi’u hachosi gan facteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn y Deyrnas Unedig yn 2015, gan arwain at 2,172 o farwolaethau. Digwyddodd y rhan fwyaf o’r rhain  mewn ysbytai; enghraifft gyffredin yw MRSA (methisilin gwrthiannol Streptococcus aureous). Tan yn ddiweddar defnyddid y gwrthfiotig vancomycin fel dewis olaf yn erbyn MRSA, ond nawr mae’r bacteriwm wedi dechrau datblygu ymwrthedd yn ei erbyn.

Mae priodweddau gwrthfiotig mêl yn wybyddus ers blynyddoedd a defnyddir gorchuddion sy’n cynnwys mêl ar glwyfau. Dangoswyd y gall mêl Manuka atal llawer o bathogenau clwyfau in vitro, ac mae’n effeithiol yn erbyn bacteria gwrthiannol gan gynnwys MRSA7.

Er bod y rhan fwyaf o wrthfiotigau naturiol wedi dod o organebau pridd, gall y cefnforoedd hefyd fod yn ffynhonnell, a marinomycin A yw un enghraifft o wrthfiotig sy wedi dod o’r organeb forol Marinispora. Fodd bynnag, er ei fod e’n wrthfiotig grymus sydd yn effeithiol yn erbyn MRSA, mae e’n sensitif i olau. Mae darganfyddiad cyffrous diweddar wedi dod o hyd i ffordd i sefydlu’r gwrthfiotig hwn. Mae sborau planhigion yn cynnwys sgerbwd hydraidd anhyblyg allanol (gweler y ddelwedd), a phan gynhwysir marinomycin y tu mewn i sborau o’r fath mae’n llai sensitif i olau8.

Rhybuddiodd yr Athro Fonesig Sally Davies, prif swyddog meddygol Lloegr, yn ddiweddar bod ymwrthedd gwrthfiotig cynyddol mewn perygl o roi meddygaeth yn ôl yn yr oesoedd tywyll, a gallai hyn hawlio bywydau llawer mwy o gleifion na nawr.

Felly beth gellir ei wneud i ddatrys y broblem hon? Mae yna sawl cam gweithredu posibl:

  • rhaid gwella atal heintiau gan lanweithdra gwell, yn enwedig golchi dwylo;
  • ni ddylai gwrthfiotigau gael eu defnyddio fel hyrwyddwyr twf ar gyfer anifeiliaid, ond dim ond ar gyfer y rheini sy’n dioddef o heintiau bacterol;
  • ni ddylai gwrthfiotigau gael eu defnyddio i drin heintiau feirol fel pesychiadau ac anwydau;
  • dylid defnyddio dewisiadau amgen i wrthfiotigau, fel bacterioffagau sy’n gallu heintio a lladd bacteria, gael eu mwyhau10;
  • gallai defnydd mwy effeithiol o frechlynnau osgoi rhai heintiau;
  • yn olaf, dylai defnydd o brofion diagnostig cyflym gael eu hannog oherwydd gall y rhain alluogi meddygon i benderfynu os yw claf yn dioddef o haint bacteriol yn lle haint feirol, ac mewn achosion ffafriol, penderfynu pa fath o facteria sydd yno.

Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.

  1. Goossens, H et al, Outpatient antibiotic use in Europe and association with resistance: a cross-national database study, Lancet 2005, 365(9459), 579-87.
  2. Van Boeckel, T P et al, Global trends in antimicrobial resistance in animals in low- and middle-income countries, Science, 2019; https://science.sciencemag.org/content/365/6459/eaaw1944
  3. Schaefer, A M et al, Temporal changes in antibiotic resistance among bacteria isolated from the common bottlenose dolphins; Aquatic Mammals, 2019, 45(5), 533-542.
  4. Cassini, A et al, Attributable deaths and disability-adjusted life-years caused by infections with antibiotic-resistant bacteria in the EU and EEA in 2015. . . , The Lancet Infectious Diseases, 2019, 19(1), 56-66.
  5. O’Neill, Chairman, Review on Antimicrobial Resistance. Tackling a global health crisis: initial steps, 2015, tudalen 8.
  6. Guardian Article, 11 September 2019, Bacteria developing new ways to resist antibiotics, doctors warn; https://www.theguardian.com/society/2019/sep/11/bacteria-developing-new-ways-resist-antibiotics-doctors-warn
  7. Cooper, R and Jenkins, R Are there feasible prospects for Manuka honey as an alternative to conventional antimicrobials, Expert Rev. Anti Infect. Ther. 2012, 10(6), 623-625.
  8. Bailey, C S et al, A natural solution to photoprotection and isolation of the potent polyene antibiotic, Marinomycin A, Chem Sci., 2019, 10, 7549-7553.
  9. Guardian article, 4 September 2019, Rise in antibiotic resistance must be tackled, says top medic; https://www.theguardian.com/society/2018/sep/04/rise-in-antibiotic-resistance-must-be-tackled-says-top-medic
  10. Czaplewski, L et al, Alternatives to antibiotics – a pipeline portfolio review, The Lancet Infectious Diseases, 2016, 16(2), 239-251.