Ysgolion cynradd Môn am ddysgu o bell

Oherwydd staff a disgyblion yn profi’n bositif i’r Coronafeirws neu’n gorfod hunan-ynysu, bydd holl ysgolion cynradd Sir Fôn yn dysgu o bell o ddydd Mawrth (Rhagfyr 15) tan ddiwedd y tymor.

Fe fydd plant gweithwyr allweddol a phlant bregus yn cael gofal tan ddiwedd yr wythnos.

“Mae symud i ddysgu o bell ychydig ddyddiau yn fuan – gydag athrawon yn rhoi gwersi o bell – yn rhoi ychydig o le i bawb allu anadlu,” meddai’r Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Fôn.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yr holl ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun.

Pryder am gynnydd achosion Covid-19 Ceredigion

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfradd achosion Covid-19 Ceredigion wedi codi i’w lefel uchaf erioed ers dechrau’r pandemig.

Cafodd 150 o achosion newydd eu cadarnhau dros y saith diwrnod diwethaf gan godi cyfradd y sir i 206.3 fesul 100,000 o’r boblogaeth.

Mae pryder penodol am raddau’r  cynnydd yn ardal Aberaeron a Llanrhystud, sydd bellach wedi cyrraedd 507.3 fesul 100,000 o’r boblogaeth ac ardal Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad sy’n parhau’n uchel ar 388.2 fesul 100,000 o’r boblogaeth (7 diwrnod rhwng 2 a 8 Rhagfyr).

Mae’r Cyngor Sir yn apelio ar drigolion i ddilyn y canllawiau i gadw eu teuluoedd yn ddiogel ac yn gofyn iddyn nhw gyfyngu eu cyswllt â phobl y tu allan i’w cartref.

STEIL. Alex Humphreys

gan Bethan Lloyd

Mae cael swydd newydd yn cyflwyno’r tywydd wedi rhoi esgus da i’r ferch o Sir y Fflint brynu dillad newydd

Darllen rhagor

Torïaid blaenllaw yn beirniadu Boris Johnson

Cyhuddo’r Prif Weinidog o ymddwyn fel ‘cenedlaetholwr Seisnig’ yn ei agwedd at drafodaethau Brexit

Darllen rhagor

Cyfaddef pryder am effaith llacio cyfyngiadau dros y Nadolig

Y Gweinidog Iechyd yn ofni cynnydd pellach mewn achosion – ond yn gyndyn o dorri cytundeb y pedair gwlad

Darllen rhagor

Rhybudd am effaith Brexit di-gytundeb ar brifysgolion

Staff a myfyrwyr yn galw am sicrwydd parhad cynlluniau ymchwil

Darllen rhagor

Lladron yn cael eu dal gan eu ci eu hunain

Brodyr wedi gadael eu ci Jack Russell ar ôl wrth ddianc rhag yr heddlu

Darllen rhagor

Helpu gyrwyr lorïau trwy ddryswch Brexit

Agor canolfan wybodaeth yng ngwasanaethau Pont Abraham

Darllen rhagor

Goruchaf Lys America’n gwrthod apêl Trump

Y ffordd yn glir i’r Coleg Etholiadol ethol Joe Biden ddydd Llun

Darllen rhagor

Dim cytundeb Brexit yn “debygol iawn” meddai Boris Johnson

Y prif faen tramgwydd yw sut i sicrhau cystadleuaeth deg unwaith y bydd gwledydd Prydain yn gadael

Darllen rhagor