Mae Huw Bebb wedi syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda band o Ben Llŷn, ac yma mae yn egluro pam…

Mae’n anodd meddwl am fand sydd wedi bod mor brysur â Pys Melyn dros y misoedd diwethaf.

A hwythau eisoes wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau amlycaf a mwyaf talentog Cymru, mae’r haf hwn wedi bod yn storm berffaith i’r mwddrwgs o Ben Llŷn.