Mae Llywodraeth yr Alban newydd roi Deddf Troseddau Casineb a Threfn Gyhoeddus ar waith – hon ydi’r ddeddf y mae J K Rowling yn benodol wedi ymosod arni. Hwyrach bod rhesymau Rowling dros ei gwrthwynebu’n wahanol i rai eraill, ond dyma smonach o ddeddf os bu un erioed. Ymhlith y nodweddion a warchodir oddi tani mae oedran, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Fe sylwch nad ydi rhyw wedi’i gynnwys ynddi.