Arbenigedd y Cymry? Ofni’r gwaethaf a darogan och a gwae.

Dyna pam fod Warren Gatland yn gymaint o chwa o awyr iach.

Tra mae’r cefnogwyr yn rhagweld clamp o grasfa draw yn Nulyn bnawn Sadwrn, mae Hoff Kiwi’r Cymry yn llawn ffa.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Ddulyn er mwyn profi’n hunain yn erbyn un o dimau gorau’r byd,” meddai Gats wrth y Wasg ddechrau’r wythnos wrth gyhoedd ei garfan ar gyfer herio’r Gwyddelod.