Mae athrawes Ddrama yn mynnu mai lles merched, ac nid arian, sydd yn dod gyntaf yn ei chlwb stripio symudol…

Creu awyrgylch ddiogel, gynhwysol a theg i ferched sy’n diddanu drwy ddinoethi yw nod clwb stripio symudol yn y Rhyl sydd wedi bod yn destun rhaglen gan S4C.

Mae Nancy’s Girls yn cynnal sioeau achlysurol yn y dref sydd ar lan y môr yn Sir Ddinbych, ac yn denu merched o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt i gydweithio efo nhw.