Mae gan y dyn busnes 35 oed o Borthmadog 265,000 o ddilynwyr ar Instagram sy’n derbyn ei gyngor ar faeth ac ymarfer corff.

Hefyd mae yn berchen ar gampfa ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd, ac yn y broses o agor un arall ym Mhwllheli.

A’r llynedd bu’n cael ei ffilmio yn helpu ei ffrind 30 stôn, Gethin John, i golli pwysau a dod yn fwy heini…

O le ddaeth y diddordeb mewn ffitrwydd?