“Mae’r byd yn mynd yn fwy cynaliadwy” yn ôl un dyn busnes ifanc sydd wedi agor ei siop ddillad ail-law ei hun…

Mae diddordeb un dyn mewn hen grysau pêl-droed wedi arwain at agor siop ddillad vintage.

Agorodd siop ‘Cymro Vintage’ yng Nghaernarfon dros y penwythnos, ac mae gan Dylan Jones gasgliad o ddillad retro yno – o hen gits rygbi Cymru i sweatshirts Nike o’r 2000au cynnar.