Bydd digon o hwyl a chwerthin yn ystod yr ‘awr wyllt o ddramâu comedi byr newydd sbon’ yng Nghaffi Maes B…

Fe fydd awr o ddramâu digri byrion newydd sbon gan bedwar dramodydd yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd yn yr Eisteddfod eleni. Dramodwyr yr awr o sioe dan y teitl Ha/Ha yw Caryl Burke, Mari Elen, Geraint Lewis a Gruffydd Ywain.

Mae’r awr gomedi, a fydd i’w gweld yng Nghaffi Maes B am bump ar nos Fawrth, Fercher a Iau’r Brifwyl, yn adeiladu ar lwyddiant cynhyrchiad tebyg y llynedd, Rŵan/Nawr, a roddodd gyfle i bum dramodydd newydd sgrifennu drama fer yn ymateb i ddigwyddiadau’r newyddion. Eleni roedd yr alwad am ddramodwyr yn un agored, a doedd dim rhaid ymateb i destun, dim ond creu comedi. Yr un cyfarwyddwyr â’r llynedd sydd wrth y llyw, sef Cyfarwyddwyr Cyswllt y Theatr Genedlaethol a Theatr Clwyd, Rhian Blythe a Daniel Lloyd.

Bwriad y Theatr Genedlaethol gyda Ha/Ha yw “cynnig noson ddireidus i gynulleidfaoedd efo pick’n’mix o ddramâu comedi newydd sbon,” yn ôl Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan Donnelly. “Mae’n noson berffaith ar gyfer gŵyl oherwydd naws y cynhyrchiad, hyd y dramâu a’r amrywiaeth o wahanol fathau o ddramâu comedi – sydd am roi rhywbeth i bawb gobeithio,” meddai.

“Mae’r Theatr Gen wedi dod i ’nabod lleisiau newydd drwy’r alwad agored. R’yn ni wedi cael y cyfle i gydweithio efo’r sgwennwyr gwych yma, ac mae’n golygu tyfu ein perthynas efo Theatr Clwyd, cyd-gynhyrchwyr gwych y sioe. Dw i’n meddwl bydd Ha/Ha yn dathlu sgrifennu newydd Cymraeg, creu hwyl a rhoi cyfle i ni chwerthin ar ein hunain.”

Pam nad oedd y cwmni wedi gofyn am ddramâu sy’n ymateb i’r newyddion fel y roedd project Rŵan/Nawr ym Moduan y llynedd?

“Mae tipyn o gynulleidfa’r Eisteddfod yn mwynhau dod i weld comedi – mi gawson ni lot o hwyl efo Parti Priodas y llynedd,” meddai Steffan Donnelly. “Gan ei fod o’n fodel gynhyrchu sy’n agored a hyblyg i arddulliau neu genres gwahanol, roedd dewis rywbeth gwahanol eleni yn teimlo’n syniad da. Ac wrth gwrs tydi hyn ddim yn golygu bod ymateb i’r newyddion ddim yn gallu bod yn rhan o hwn. Mae ganddon ni rai syniadau am beth fyddai genre penodau eraill o’r gwaith yn gallu bod yn y dyfodol.”

Yn ogystal â’r pedwar dramodydd, fe fydd yna berfformiwr, Hannah Daniel, yn rhoi cyflwyniad creadigol rhwng pob drama, meddai, “gan blethu’r dramâu mewn i un noson hwyliog.”

Parti Priodas yn ysbrydoli

Un o’r dramodwyr a gafodd eu dewis i fod yn rhan o Ha/Ha yw Caryl Burke, sydd wedi gwneud ei henw yn perfformio stand-yp. Roedd hi’n awyddus i roi her newydd i’w hun o sgrifennu i’r llwyfan, ar ôl iddi sgrifennu ac actio mewn drama gomedi beilot, RSVP, ar gyfer gwasanaeth ar-lein S4C, Hansh, ddechrau Gorffennaf.

“Roedd sgrifennu RSVP yn ychydig bach o her, sgrifennu i bobol eraill – yn amlwg efo stand-yp dw i’n sgrifennu efo fy llais fi’n hun,” meddai’r dramodydd. “Efo hwn, roedden ni’n cael y cyfle i gael ein mentora a chael adborth gan Rhian Blythe a Daniel Lloyd. Ac efo RSVP, roedden ni’n mynd allan a ddim yn cael ymateb pobol, felly dw i’n edrych ymlaen at hynna.”

Ni fydd hi yn actio yn Ha/Ha, yn wahanol i’w drama deledu. “Felly mae rhywbeth bach yn gyffrous ac yn scary mewn handio sgript draw i actorion a’r cyfarwyddwyr a gweld be’ maen nhw’n feddwl o’r darn, a sut maen nhw’n ei ddehongli fo,” meddai. “Mae gen i syniad o sut fyddai’n cael ei ddelifro a sut bydden nhw’n ei berfformio, ond does gen i ddim syniad sut fyddan nhw’n ei wneud o go-iawn, a beth fydd yr elfennau pwysig.”

Roedd hi wedi cael ei hysbrydoli gan ddrama ysgafn Gruffudd Owen, Parti Priodas, a welodd ar daith dan ofal y Theatr Genedlaethol oherwydd bod “yr ysgrifennu mor anhygoel”. Cafodd ei brawychu ychydig hefyd, o “gael gweld be’ ydi sgrifennu go-iawn”.

Felly roedd hi’n falch iawn o gael cefnogaeth mentoriaid profiadol y tro yma. “Hyd yn oed efo’r stand-yp, y sgrifennu dw i’n gweld yn anoddach,” meddai. “Eleni dw i wedi bod yn lwcus cael y cyfle i sgrifennu i bobol eraill, RSVP a hwn, a sgrifennu What Just Happened (sioe gwis) i Radio Wales. Y mwya’ dw i’n gwneud, mwya’ dw i’n mwynhau ac yn ei ddysgu.”

Yn ei drama fer hi, a fydd yn cael ei pherfformio gan yr actorion Caitlin Drake a Dewi Wykes, mae dau gymar yn aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd. Mae’r dramodydd 33 oed yn dweud bod cymeriadau’r ddrama, fel hi, yn teimlo pwysau’r ‘quarter life crisis’ – pobol yn eu 20au a dechrau’u 30au sy’n gofidio am gyfeiriad eu bywydau – ac am yr amgylchedd, costau byw, ac ati.

Fe fydd Caryl hefyd yn rhan o’r noson stand-yp eto eleni, yn y Babell Lên ar nos Sul gynta’r Brifwyl.

“Mi wnes i fwynhau’r flwyddyn ddiwetha’ yn fwy na fyddwn i’n meddwl y byddwn i,” meddai. “Mae cynulleidfa’r Eisteddfod yn wahanol i gynulleidfa’r clybiau comedi ym Manceinion a Llundain yr ydw i wedi arfer â nhw. Maen nhw’n gyfeillgar iawn ac yn groesawgar.” Serch hynny, mae hi ychydig bach yn betrus. “Mae’r Babell Lên yn babell eitha’ mawr… Ond mae o’n bwysig gwthio’ch hun i wneud pethau newydd.”

Hwyl gyda ‘Swyddog Cadw Trefn’ yr Eisteddfod

Un o ddramodwyr eraill Ha/Ha yw Gruffydd Ywain, a enillodd y Fedal Ddrama yn y Brifwyl yn Nhregaron yn 2022. “Mi oedd o’n her i gychwyn, achos dw i erioed wedi sgrifennu comedi o’r blaen, ond mi oedd o’n swnio yn gyfle rhy dda i o leia’ ymgeisio,” meddai.

Prif gymeriad ei ddrama fer yw dyn ifanc proffesiynol o’r enw Llywelyn ap Iago sydd wedi cael ei benodi yn ‘Swyddog Cadw Trefn’ yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae hwn yn foi yn eitha’ cocky yn ei swydd,” meddai’r dramodydd, “wedi gweithio yn Llundain, yn meddwl fod e’n joban hawdd ac yn meddwl symud i sedd saff yn y Senedd. Mae o’n cydweithio efo Rhianedd, sy’ wedi gweithio yno ers sawl blwyddyn… a Lois, sydd yna ar brofiad gwaith. A hi ydi’r cymeriad, y doethaf, a’r un mwya’ cynhyrchiol.”

Ymunwn â’r cymeriadau ar fore’r Cadeirio ar ddydd Gwener, a phawb wedi cael wythnos dda o eisteddfota a thywydd braf. “Ac mae’r Llywelyn yma yn meddwl ei hun,” meddai Gruffydd Ywain. “Wrth i’r ddrama ddatblygu, mae yna ambell i ddigwyddiad sydd yn achosi problemau mawr i’r criw, ac mae’r ddrama am eu hymgais nhw i geisio ffeindio’r ffordd orau ymlaen i ddatrys y problemau hynny.”

Gweld yr hiwmor sydd ynghlwm â biwrocratiaeth mewn unrhyw gorff y mae’r dramodydd, yn hytrach na’r Eisteddfod yn benodol. “Dw i’n ffan mawr o’r gyfres W1A, yn sôn am sut mae sefydliad fel y BBC yn gweithio a pha mor absẃrd mae’r sefyllfa yna yn gallu bod ar y dechrau,” meddai. “Dyna’r math o gomedi dw i’n anelu ato fo yn y ddrama yma… absẃrd a dychanol yr un un pryd.”

Sesiwn fentora “hynod werthfawr” gan ddramodydd Saesneg

Cafodd y dramodwyr eleni gyfnod datblygu syniad hirach na dramodwyr Rŵan/Nawr y llynedd, a hyfforddiant. Yn ogystal â sesiynau gyda’r cyfarwyddwyr Rhian Blythe a Daniel Lloyd, fe gawson nhw sesiwn fentora ar-lein gyda dramodydd Saesneg uchel ei barch, James Graham, sydd yn enw mawr yn y byd theatr Prydeinig a’r byd teledu.

“Roedd yn hynod werthfawr,” meddai Gruffydd Ywain. “Mi wnaethon ni fynd drwy syniadau’r awduron i gyd yn drwyadl… Mi wnaeth o wneud i ni drafod ein cymeriadau, ym mhob drama… Gwir sylwedd y sesiwn oedd gwneud i ni drafod yn uchel efo’n gilydd y cymeriadau yma a gorfod cyfiawnhau eu cymhelliant nhw a mynd dan eu crwyn nhw. Natur y broses oedd ei sgrifennu ar eich pen eich hun, felly roedd cael y cyfle i drafod y cymeriadau efo rhywun mor drwyadl yn brofiad arbennig.

“Comedi 10 munud ydi hwn. Maen nhw’n fyr, ac rydach chi’n gorfod landio eich jôcs yn eitha’ buan. Er hynny, roedd o yn ein hannog ni i feddwl am y cymeriadau yma fel pobol go-iawn, ac yn fwy dwys a fwy trylwyr na faswn i wedi meddwl falle cyn dod yn rhan o’r broses.”

Esboniodd Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Gen wrth Golwg pam eu bod wedi gofyn i James Graham roi hyfforddiant.

Dyma ddyn sydd wedi sgrifennu dramâu llwyddiannus am Gareth Southgate, cyn-reolwr tîm pêl-droed Lloegr, a hanes Rupert Murdoch yn prynu papur newydd The Sun yn y 1960au.

“Mae James yn ddramodydd arbennig sy’n gallu troi ei law at straeon gwahanol, a sicrhau bod eu perthnasedd yn dod drwodd,” meddai Steffan Donnelly. “Roedd dipyn o siarad am gymeriadu a sut mae gweld hiwmor mewn sefyllfaoedd cyffredin. Mae’n ddramodydd sy’n gallu adnabod straeon poblogaidd eu hapêl ond yn mynd â ni ar siwrne gymhleth a chodi cwestiynau mawr efo nhw.”

 

  • Ha/Ha (Theatr Genedlaethol Cymru/Theatr Clwyd), Caffi Maes B, 6 – 8 Awst 5pm. (Fe fydd Theatr Genedlaethol hefyd yn cyflwyno Brên. Calon. Fi. yng nghanolfan YMa, Pontypridd, 6 – 9 Mehefin 4pm – monolog newydd gan Bethan Marlow, mewn cyd-gynhyrchiad gyda Mas ar y Maes. Yr actor Lowri Morgan yw’r storïwr a fydd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith drwy stori ei bywyd carwriaethol)