Fe wyliais i’r ddadl gyfan a gynhaliwyd yn San Steffan ar gymorth i farw. Mynegais fy mhryderon rai wythnosau’n ôl am yr holl syniad, a does dim wedi lleddfu ar y rheiny… y mae ar y ddeddf fwy o asgwrn na chig. Dydw i ddim yn credu ei bod yn sicrhau digon o fesurau diogelwch i warchod pobl fregus rhag gorfodaeth a manipiwleiddio. Dwi hefyd yn meddwl pan/os daw’n statudol y bydd hi’n fodd i lywodraeth lwyr anwybyddu safon annigonol gofal lliniarol yn y wlad hon er mwyn ffafrio opsiwn haws. Mae