Dw i wastad yn croesawu unrhyw ddrama newydd ar S4C. Gan eu bod nhw’n bethau eithriadol o brin yn un peth, ac yn mynd yn brinnach hefyd wrth i’r esgid wasgu.
Ond eto, roedd yna ryw deimlad o deja vu wrth weld yr hysbysebion ar gyfer Cleddau. Ia, drama drosedd arall, ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon, un wedi ei lleoli yn ardal Aberdaugleddau a Doc Penfro, ryw 75 milltir o Aberystwyth, ac yn serennu Richard Harrington fel y ditectif ac un o’r prif gymeriadau.
Swnio’n gyfarwydd? Oedd, roedd yna fwy nag ychydig o adlais o Y Gwyll yma, y gyfres ‘Cymru Noir’ wreiddiol os hoffwch chi. A dw i’n licio meddwl fy mod i’n eithaf meddwl agored efo pethau fel hyn, dw i ddim yn aelod pybyr o’r gymdeithas “yr un actorion sydd yn bob dim”. Ond… rhaid i mi gyfaddef fy mod i braidd yn amheus o Cleddau cyn iddi gychwyn.
A chlod felly i bawb ynghlwm â’r gyfres am ba mor fuan y diflannodd yr amheuon hynny. Tua hanner ffordd trwy’r bennod gyntaf roeddwn i wedi anghofio popeth am ‘DCI Tom Mathias’ a Hinterland, ac wedi buddsoddi’n llwyr yn ‘DS Rick Sheldon’, yn ei gyd-dditectif ‘DI Ffion Lloyd’ ac yn stori afaelgar Cleddau.
Achos er eu bod yn gwneud yr un gwaith ac yn edrych yn debyg iawn, mae yna wahaniaethau mawr rhwng Mathias a Sheldon. Nid yw Rick cweit mor ddwys â Tom, mae o’n ysgafnach cymeriad, yn ddoniolach, yn rhywun a fyddai’n fwy o hwyl mynd am beint ag o na Mr Syllu-i’r-gwagle. Ond y gwahaniaeth mwyaf efallai yw’r ffaith nad ydi o’n gystal ditectif! Caiff ei barchu gan ei gydweithwyr a’r trigolion lleol ond go-iawn, DI Ffion Lloyd yw’r brêns yn y bartneriaeth yma.
Caiff hi ei phortreadu yn gyfan gwbl wych gan Elen Rhys. Actor llwyddiannus a phrofiadol iawn sydd wedi ymddangos mewn cynyrchiadau fel Ordinary Lives a The Mallorca Files, ond wyneb cymharol anghyfarwydd i gynulleidfa iaith Gymraeg efallai.
Gyda dramâu trosedd mor boblogaidd ag erioed, mae Cleddau yn eithaf anarferol yn yr ystyr fod cymaint o ffocws ar stori bersonol y ddau brif dditectif. Fel rheol, dim ond rhyw gip bach gewch chi ar fywydau’r prif gymeriadau, rhyw ychydig funudau ar ddiwedd pennod fel arfer. Ond yn Cleddau mae stori Ffion a Rick, eu hanes a’u perthynas â’i gilydd, yn gwbl greiddiol i’r ddrama. Yr un mor bwysig â’r achos y maent yn ceisio’i ddatrys, ac mae’r bywydau personol a phroffesiynol hynny wedi plethu trwy’i gilydd yn gelfydd tu hwnt. Dim ond gyda dau actor o’r radd flaenaf y byddai hynny wedi gweithio ac mae Rhys a Harrington yn sicr wedi llwyddo.
Cysgod John Cooper
Llofruddiaeth nyrs yng Nghoed Cleddau yw’r achos maent yn ceisio’i ddatrys, achos sydd yn debyg iawn i lofruddiaeth ddwbl y gweithiodd y ddau arno ddeuddeg mlynedd ynghynt. Digwyddodd yr ail lofruddiaeth saith diwrnod ar ôl y cyntaf y tro hwnnw felly mae hi’n ras yn erbyn y cloc i ddal y llofrudd cyn iddo ef, neu hi, daro eto y tro hwn. Wrth i’r plot dwchu, codir amheuon am yr ymchwiliad gwreiddiol hwnnw a daw i’r amlwg fod mwy na thebygrwydd yn cysylltu’r achosion.
Gan fy mod wedi gwrando ar bodlediad Death on the Farm yn ddiweddar, roeddwn yn gyfarwydd â hanes sawl llofruddiaeth hanesyddol yn Sir Benfro. Ac mae’n amlwg fod y stori hon wedi ei hysbrydoli i raddau gan ddigwyddiadau yn y byd go-iawn. Mae dwy lofruddiaeth ddwbl fynyddoedd ar wahân yn debyg iawn i hanes John Cooper, dyn o’r union ardal y mae Cleddau wedi’i leoli. Ond y tebygrwydd mwyaf efallai yw’r awgrym o lygredd o fewn yr Heddlu. “They’ll do anything to get results” yw’r cyhuddiad yn eu herbyn gan un cymeriad yn gynnar yn y gyfres, ac mae’r thema honno’n dod yn un amlwg wrth i’r stori ddatblygu. A dyna pam mai DI Ffion Lloyd yw arwr Cleddau, hi yw’r un sydd yn benderfynol o ganfod y gwir.