Bu Non Tudur draw yn WOMEX, y ‘World Music Expo’ ym Manceinion, tros y penwythnos i holi’r Cymry a sawl cyfaill o dramor oedd yno…
Mae’n siŵr mai WOMEX yw un o’r cynadleddau lleiaf diflas yn y byd. Ffair fasnach a chynhadledd mewn neuadd enfawr, lle mae yna gannoedd o wledydd a diwylliannau o bob math yn brolio eu cerddoriaeth hen a newydd a’u traddodiadau brodorol, a threfnwyr cyngherddau a labeli recordio yn trafod busnes. Yn ôl rhai dyma ‘Olympics y byd cerddoriaeth’.