A hithau’n Galan Gaeaf, dyma hanes ffilm arswyd Gymreig sydd wedi cael ei dangos yn Llundain, Llanfyllin, America, ac i’w gweld yn yr Egin yng Nghaerfyrddin heno…
Beth fyddai’n gallu gwneud i dref edrych fel golygfa mewn ffilm arswyd? Dyna oedd y cwestiwn wnaeth groesi meddwl cynhyrchydd ffilm wrth gerdded o amgylch bro ei febyd yn ystod y cyfnod clo.
Mae’n rhyfedd meddwl am drefi cwbl wag a chael ein cyfyngu i awr o am dro dyddiol erbyn hyn, ond gweld Tre Ioan ger Caerfyrddin fel y bedd wnaeth sbarduno Aled Owen i sgriptio a chynhyrchu’r ffilm Scopophobia.
Bydd y ffilm “arswyd” Saesneg yn cael ei dangos yn yr Egin yng Nghaerfyrddin heno ar noson Calan Gaeaf.
Aled a’i gyd-gynhyrchydd, Tom Rawding o Portsmouth, yw sylfaenwyr cwmni cynhyrchu ffilmiau Melyn Pictures, a dyma eu ffilm nodwedd gyntaf. Mae’r cwmni wedi cael ei ysbrydoli gan ffilmiau murder mystery Giallo o’r Eidal, gyda ‘giallo‘ yn cyfieithu i ‘melyn’.
Cyfeiria deitl y ffilm at yr ofn o gael eich gwylio, ac mae’r stori’n dilyn Rhiannon, sy’n cael ei chwarae gan Catrin Jones o Abertawe, sy’n dioddef o’r cyflwr. Yn Scopophobia fe glywn bod ffrindiau Rhiannon wedi rhoi pwysau arni i ddwyn arian o’r felin ddur leol pan oedden nhw yn eu harddegau, a degawd yn ddiweddarach mae’r bedair ffrind yn ôl yn y dref, a honno’n farwaidd. Mae’r pedair yn dychwelyd i’r felin ddur, ond dydyn nhw ddim ar eu pennau eu hunain…
Mae ambell wyneb profiadol yn ymuno â’r cast i chwarae mân gymeriadau, nifer ohonyn nhw â chysylltiadau ag ardal Caerfyrddin, gan gynnwys Steffan Cennydd (Y Sŵn, The Pembrokeshire Murders), Kevin McCurdy (Lost Boys and Fairies, Keeping Faith), Rhodri Miles (Game of Thrones), Christine Kempell (Coronation Street), Ioan Hefin (Gangs of London) a Lisa Marged (Parch, Pen Talar).
Bethany Williams-Potter o Gaerfyrddin, Emma Stacey o Benybont-ar-Ogwr ac Ellen Jane-Thomas o Ddinbych-y-Pysgod sy’n ymuno â Catrin Jones i actio’r prif gymeriadau sy’n griw o ffrindiau.
Wedi’i fagu yn Nhre Ioan nes oedd yn saith oed, a bellach yn byw ym mhentref Llangynnwr ger Caerfyrddin, sefydlodd Aled Melyn Pictures yn 2021 ar ôl graddio o Ysgol Ffilm Gogleddol Leeds yn 2019. Yno y bu iddo gyfarfod Tom Rawding, cyd-gynhyrchydd Scopophobia. Ar ôl treulio cyfnod byr yn gweithio ar raglenni teledu plant yng Nghaerdydd, ffeindiodd Aled ei hun yn ôl yn Sir Gaerfyrddin yn ystod Covid a daeth yr awydd i ddatblygu ffilm ei hun.
“Roeddwn i’n ffeindio fy hunan nôl yn square one i ryw raddau. Dw i wastad wedi moyn creu ffilmiau fy hunan, cael y cyfle i gyfarwyddo sgriptiau fi wedi sgrifennu fy hunan,” eglura Aled.
“Roeddwn i’n dechrau meddwl a oedd y cyfle byth yn mynd i ddod nawr, nawr bod y diwydiant ffilm yn gorffen am bwy â ŵyr pa mor hir oherwydd Covid.”
Cysylltodd â Tom Rawding i drafod ffilm fer Gymraeg o’r enw Cilgeti i ddechrau, ond roedd y sgript yn ormod o her i’w cyllideb fechan. Fodd bynnag, roedd Aled wedi dechrau sgrifennu Scopophobia, a daeth y ddau i’r casgliad ei bod hi’n gweddu’n well ar gyfer eu cyllideb.
“Mae’n ddiddorol achos mae’r byd arswyd yn fyd eithaf da o ran trio cael pobol i weld eich ffilmiau low budget. Pryd rydych chi’n eistedd lawr i wylio ffilm, pan mae comedi yw e a chi ddim yn adnabod dim o’r cast, dydych chi ddim am wylio fe, yr un peth gyda drama,” meddai Aled.
“Ond pryd ti’n dod at ffilmiau arswyd, mae pobol yn fwy hapus i wylio ffilm sydd gyda neb maen nhw’n adnabod ynddo fe achos maen nhw moyn bod yn y stori.
“Rydyn ni’n marchnata fe fel ffilm arswyd, ond wir ffilm thriller yw hi ambyti’r cymeriadau.
“Mae’r hanner cyntaf yn setio fe lan fel un math o ffilm arswyd eithaf clasurol ac wedyn mae twist yn y canol, ac rydyn ni’n cael mewn i beth mae’r ffilm wir ambyti – sef pa mor wael yw’r bobol yma rydyn ni wedi bod yn eu dilyn a pha mor ffiaidd yw’r ffrindiau yma i’w gilydd. Thriller seicolegol yw hi.”
Yn y ras am wobrau yn America
Fe ddigwyddodd y ffilmio ar gyfer Scopophobia yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Middlesborough, ac esbonia Aled mai ei am dro dyddiol yn y cyfnod clo oedd y sbardun.
“Yn yr awr roeddwn i’n cael cerdded, roeddwn i’n trio mynd yn bellach ac yn bellach o fewn yr awr, a bydden i’n cerdded lawr o Langynnwr, rownd y dref a gwneud lŵp rownd Tre Ioan. Ac roeddwn i’n ffeindio bod bod yn ôl ble roeddwn i’n tyfu lan mor ddiddorol tra’n gweld bod neb ar y strydoedd.
“Hwnna roddodd yr ysbrydoliaeth i fi feddwl tybed am straeon eraill ble bydde rhywbeth arall wedi digwydd, ryw reswm arall ble bod neb yn nhref gartref y cymeriad rhagor.
“Beth fydde wedi gallu digwydd i wneud i’r strydoedd edrych fel ffilm arswyd, fel [oedden nhw adeg Covid].”
Cafodd Scopophobia ei dangos am y tro cyntaf yn Leicester Square yn Llundain fel rhan o Pigeon Shrine FrightFestival y ddinas fis Awst, ac mae’r ffilm awr a 40 munud o hyd bellach wedi cael ei dangos yn y Lyric yng Nghaerfyrddin ac mewn gwyliau ffilm yn Llanfyllin a Wrecsam. Mae hi hefyd wedi ei gweld yng ngŵyl ffilm HorrorHound yn ninas Cinncinati yn Ohio, ac wedi ei henwebu am saith gwobr gan HorrorHound, gan gynnwys cyfarwyddwr gorau, enwebiad yn y brif rôl i Catrin Jones ac enwebiad rôl gefnogol i Emma Stacey.
GG Fearn, artist pop tywyll ifanc o Gaerfyrddin, sydd wedi creu’r gerddoriaeth ar Scopophobia, ac mae’r holl draciau ar blatfformau ffrydio.
“Hanner y rheswm wnes i fynd i wneud y ffilm yna oedd achos roeddwn i’n dod yn rhwystredig gyda’r ffordd doedd dim lot o ddrysau ar agor, roeddwn i’n meddwl, i bobol ifanc gael bod yn greadigol yn y ffordd maen nhw moyn,” meddai Aled.
“Trial creu cyfleoedd i fi’n hun oeddwn i, achos doeddwn i ddim yn gweld cymaint o gyfleoedd yn dod ffordd fi.
“Roeddwn i’n gwybod bod llwyth o dalent achos roedd digon o gyfleoedd i weld faint o dalent oedd.”