Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i derfysgwyr Hamas groesi’r ffin rhyngddynt ac Israel, cyn lladd 1,269 o bobl. Ymhlith y meirw roedd plant ifanc a babanod – a merched a menywod ifanc a dreisiwyd cyn eu lladd.
Gorffennwyd yr ymosodiad drwy gipio 251 o wystlon (eto, yn cynnwys plant). Lladdwyd nifer ohonynt ers hynny, gan gynnwys chwech a laddwyd mewn gwaed oer gan Hamas ar ddiwedd Awst, wrth i filwyr Israel agosáu.
Bu dathlu yn Gaza yn yr oriau’n dilyn y lladd, nes i Israel daro yn ôl wrth ddatgan eu bod am ddinistrio Hamas. Erbyn hyn, mae penderfyniad Hamas i ladd cymaint o Iddewon Israel wedi costio’n ddrud iawn i bobl Gaza, gan fod y terfysgwyr yn cuddio ac yn ymladd ymhlith bobl gyffredin y wlad – a hefyd yn cadw eu harfau yn eu plith.
Beth bynnag yw hanes cymhleth Israel a’r Palestiniad, penderfyniad Hamas oedd ymosod ar 7 Hydref. Dechreuwyd y rhyfel gan unbeniaid eithafol y corff.
Dyma grŵp o ffanatigiaid sydd â’u ffocws ar ddinistrio Israel, yn hytrach na gofalu am eu pobl. Yn dilyn eu hethol yn 2006 fe gafwyd wared ar unrhyw fath o ddemocratiaeth.
Defnyddiwyd y cymorth ariannol a yrrwyd i Gaza gan wledydd eraill er mwyn adeiladu rhwng 350 a 450 milltir o dwneli i’w milwyr, yn hytrach na gwella bywydau pobl Gaza. (Ac, wrth gwrs, nid oes modd i drigolion Gaza ddefnyddio’r twneli fel lloches yn ystod y rhyfel – dim ond milwyr Hamas sy’n cael lloches ynddynt).
Mae’r twneli’n gorwedd o dan Gaza – gyda rhai yn arwain i’r Aifft (o dan y Philadelphi Corridor), sy’n ddigon mawr i dderbyn lorïau er mwyn cludo arfau i’w defnyddio gan Hamas er mwyn lladd Iddewon.
Yn y cyfamser, mae arweinwyr Hamas yn hynod o gyfoethog, wedi iddynt gadw cymaint o’r cymorth ariannol i’w hunain – a chodi trethu ar nwyddau sy’n cyrraedd Gaza drwy’r twneli.
Er enghraifft, mae Abu Marzuk, cyn-Gadeirydd Biwro Gwleidyddol Hamas, yn werth $3 biliwn; Khaled Mashal, fu hefyd yn gadeirydd y Biwro, yn werth $4 biliwn. Roedd Ismail Haniyeh, a laddwyd yn Tehran yn ddiweddar, hefyd yn werth $4 biliwn. Mae nifer helaeth ohonynt yn byw mewn cartrefi moethus yn Qatar, lle mae modd i’w meibion fyw fel tywysogion. Hyn oll tra bod dinasyddion Gaza yn byw mewn tlodi.
Mae Gaza yn wlad arfordirol, ar Fôr y Canoldir. Gallai fod yn baradwys! Ond mae Hamas wedi ei droi’n uffern wrth ddwyn arian y wlad a brwydro yn erbyn Israel.
Tybed a oedd Hamas wedi disgwyl y fath ymateb gan Israel i’r erchyllter a gyflawnwyd ganddynt ar 7 Hydref? Beth sy’n sicr, fodd bynnag, yw nad ydynt yn malio rhyw lawer am farwolaethau pobl Gaza. Meddai Yahya Sinwar (arweinydd Hamazs): ‘civilian deaths are necessary sacrifices‘. Mynnodd, hefyd, na ddylid dod â’r brwydro i’r ben ‘regardless of the human cost‘. Yn ei farn ef: ‘civilian casualties will ramp up global pressure on Israel to halt the conflict’. Mae’n hapus, felly, i aberthu pobl Gaza er lles ei amcanion terfysgol.
Yn y cyfamser, nid oes amheuaeth bod Hamas yn dal ati i ddwyn arian pobl Gaza tra’n cynllwynio i ladd Iddewon a cheisio dinistrio Israel.
Ar hyn o bryd, nid oes modd gweld diwedd i’r rhyfel. Ni fydd Sinwar am ryddhau’r gwystlon heb amodau. Rheini yw ei unig bargaining chip. Mae am dderbyn addewid gan Israel na fydd yr ymladd yn ail-gychwyn pe byddai’n eu rhyddhau – ac y bydd milwyr Israel yn gadael Gaza. Ni fydd Israel am gytuno, fodd bynnag, i adael Hamas mewn grym i ladd mwy o Iddewon a cheisio dinistrio Israel.
Bron pawb yn cefnogi Gaza
Mae bron pawb yn casáu Israel, wrth gwrs – ac yn cefnogi pobl Gaza (tra’n aros yn gymharol dawel ynglŷn â Hamas). Gwelwn wrth-Semitiaeth yn tyfu ar hyd a lled y byd – gyda nifer yn galw am ddiddymu Israel, sef cartref yr Iddewon a sefydlwyd yn dilyn yr holocost.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn blood-libels newydd. Mae’r ‘oldest hatred in the world’ wedi codi ei ben unwaith yn rhagor. Cymaint yw’r gefnogaeth i’r rheiny sy’n gwrthwynebu Israel, mae’n anodd gweld y tensiynau’n lleihau. Er enghraifft, bu’r Cenhedloedd Unedig yn ariannu’r United Nations Relief and Works Agency for Palestine a fu wrthi’n ariannu addysgu plant Gaza am yr angen i ladd Iddewon.
Yn y cyfamser, bu nifer o wledydd yn y dwyrain Canol yn ceisio magu perthynas dda gydag Israel, yn unol â’r Abraham Accords. Dyna’r peth call i’w wneud.
Ac mae Llywodraeth Prydain newydd gelwydda tra’n gwrthod gwerthu nwyddau milwrol i Israel. Dywedodd David Lammy a Keir Starmer mai ‘penderfyniad cyfreithiol’ oedd hwn. Ond meddai adroddiad y Swyddfa Dramor: Despite the mass casualties of the conflict, it has not been possible to reach a determinative judgment on allegations regarding Israel’s conduct of hostilities. Penderfyniad gwleidyddol oedd hwn felly, wrth i Starmer wynebu pwysau o fewn ei blaid.
Yn ogystal â hyn, cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar sy’n honni fod y BBC wedi torri, a hynny dros 1,500 o weithiau, ei ddyletswydd i fod yn ddi-duedd, wrth i’r corff ddangos tuedd yn erbyn Israel.
Mae Hamas wedi ennill y rhyfel gysylltiadau cyhoeddus – ac mae hynny’n drychineb i bobl Gaza sydd wedi dioddef ers 2006, diolch i’r dynion erchyll sy’n eu harwain.