Bu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ymweld â Phrif Weinidog Cymru ddechrau’r wythnos…

Mae’n siŵr bod yna elfen o déjà vu wedi bod i Keir Starmer wrth iddo ymweld â swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yr wythnos hon.

Dim ond ryw chwe wythnos yn ôl bu Syr Starmer yn cyfarfod Vaughan Gething yn yr union le, cyn i hwnnw orfod rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru.