Roedd un o feirniaid y Gadair ym Mhontypridd eleni hefyd yn deilwng o’r Goron…

Aneirin Karadog oedd y bardd â’r ffugenw Ennui AI gyda chyfres o gerddi am ddeallusrwydd artiffisial (Artificial Intelligence), a oedd yn y Dosbarth Cyntaf am y Goron gan y tri beirniad.

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni oedd Gwynfor Dafydd o Donyrefail gyda’i ddilyniant o gerddi am ei gysylltiad â’r Cymoedd.