Dyma’r artist Catrin Doyle o Bontypridd i sôn am y gweithiau a wnaeth argraff arni yn Arddangosfa Agored  y Brifwyl…

Mae cerdded i mewn i oriel y Lle Celf pob tro yn rhoi gwefr arbennig i fi fel artist ac fel Cymraes. Dyma benllanw o waith y goreuon sy’n gweithio o fewn celfyddydau gweledol Cymru – ac nid yw’r gwaith eleni ar Faes Eisteddfod Ynysangharad ym Mhontypridd yn siomi. Mae rhywbeth at ddant pawb a gwledd i’r llygaid.