Rydw i wedi camu ar yr olwyn bochdew theatrig ac ynghanol y prysurdeb o baratoi ar gyfer Gŵyl Caeredin. Rwy’n cyfarwyddo tair sioe eleni: Free Mason gan Amy Mason, Nobody’s Talking About Jamie gan Jamie Finn a For The Love of Spam gan Sierra Sevilla. Rydych chi wedi clywed fi’n siarad ambwyti’r ddwy sioe olaf o’r blaen, ond mae’r gyntaf yn un mwy diweddar.