Hanes cynnar bywyd y gantores ac actores Americanaidd, Eartha Kitt, a’i llwyddiant yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i sengl ddiweddaraf artist miwsig electroneg newydd.

Tokomololo yw enw project cerddorol Meilir Tee Evans o Fôn.

Fe fu’r deintydd ar daith i Tonga, a chael ei ysbrydoli gymaint gan bentref Tokomololo nes iddo fabwysiadu’r enw hwnnw ar gyfer ei gerddoriaeth.

Ac ers ymuno gydag un o labeli Yws Gwynedd dros y gaeaf, mae Tokomololo wedi rhyddhau tair sengl dan ymbarél y label HOSC.