Mae cacennau pobydd ifanc o’r gogledd yn wledd o rosod, cennin Pedr a blodau’r haul.

Natur a blodau’r tymor yw ysbrydoliaeth Angelicia Lambe, y ferch 23 oed sy’n rhedeg busnes cacennau Cegin Flodau.

Bu’n bobydd yng nghaffi Canolfan Arddio Frongoch ger Caernarfon am gyfnod, cyn mentro ar ei liwt ei hun tua thair blynedd yn ôl.