Mae ffotograffydd o’r Aifft wedi treulio’r degawd diwethaf yn dogfennu Cymru.

Pan symudodd Mohamed Hassan o Alexandria i Sir Benfro yn 2007, roedd Cymru mor wahanol i’w famwlad, “y mynyddoedd, yr awyr, gwahanol liwiau, popeth yn llachar”, nes ei fod yn teimlo fel pe bai’n breuddwydio.

Tra bo Sir Benfro yn wledig ac arfordirol ac yn gartref i ryw 125,000 o drigolion, Alexandria yw ail ddinas fwya’r Aifft ac mae dros bum miliwn o bobl yn byw yno.