Mae’r Technegydd Effeithiau Arbennig 34 oed wedi byw ar hyd a lled gwledydd Prydain yn gweithio ar ffilmiau Marvel a chyfresi enwog megis Doctor Who a Peaky Blinders.

Erbyn hyn mae’r rapiwr o Fethel ger Caernarfon wedi ymgartrefu yn Aughton, pentref tua deng milltir o Lerpwl, gyda’i ddyweddi a’u merch.

Fe fydd yn adnabyddus i ffans yr SRG – Sîn Roc Gymraeg! – fel basydd ffynci Derwyddon Dr Gonzo. Ond yn fwyaf diweddar mae wedi bod yn creu cerddoriaeth hip-hop dan yr enw MC Knuckle…

O le ddaw’r diddordeb mewn cerddoriaeth hip-hop?

Dw i’n cofio gwrando ar Ill Communication gan Beastie Boys pan oeddwn i tua 15 oed, a ro’n i wedi fy hudo. Wedyn wnes i gael mewn i Eminem ac yn y blaen.

Pan wnes i symud i Gaerdydd roedd yna sîn mawr yno a label o’r enw Associated Minds. Ro’n i a fy mêt Llion Gethin, sy’n mynd dan yr enw Nature Reserve – sy’n cynhyrchu fy ngherddoriaeth i hefyd – yn mynd rownd Caerdydd yn cael peint a gwylio’r MCs anhygoel yma doeddwn i erioed wedi clywed am o’r blaen. Wnaeth Caerdydd fy ngwneud i’n obsessed efo hip-hop.

Am be mae eich sengl ddiweddaraf, ‘Anadlu’?

Wnes i sgrifennu hon yn ystod Covid ac mae o i wneud efo’r ffordd roedd y llywodraeth wedi rhoi muzzle mawr ar bobol adeg Covid. Ro’n i jest eisiau rhoi’r paralel yna i sut roedd Cymru wedi cael y muzzle yma gan y llywodraeth dros y cannoedd o flynyddoedd diwethaf.

Beth ydych chi’n meddwl o’r sîn hip-hop Cymraeg?

Mae o’n rhy saff. Dydw i ddim yn trio siarad yn ddrwg amdano fo, ond dw i jest yn meddwl bod o’n dilyn rhyw fath o fformiwla reit Radio Cymru, a dim dyna ydy hip-hop. Mae hip-hop i fod i dorri ffiniau a dweud y stwff mae pobol eraill mewn genres eraill yn ofn ei ddweud. Mae MCs yng Nghymru, yn y Gymraeg, yn ddigon parod i jest odli un llinell efo llinell arall a dweud dim byd – fatha eu bod nhw wedi llyncu odliadur.

Mae’n rhaid rhoi shout-out mawr i Mr Phormula, un o fy ffrindiau gorau. Mae o wedi bod yn gapten y llong hip-hop yng Nghymru ers blynyddoedd a dydy pobol ddim yn deall faint mae o wedi rhoi mewn i’w grefft.

Mae’n rhaid rhoi shout-out i fois Tri Hŵr Doeth hefyd. Maen nhw’n gwneud rhywbeth dw i’n rili cyffrous am. Maen nhw’n cracio fi fyny.

Mae’r cynhyrchydd o Gaernarfon, Siop Siafins, yn gwneud rhywbeth neis a gwahanol hefyd.

Sut ddaeth y gwaith yn Dechnegydd Effeithiau Arbennig ar ffilmiau a rhaglenni teledu enwog?

Wnes i brentisiaeth yn 2012 achos doedd gennai ddim byd i’w golli. Roedd gennai radd yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a ro’n i’n gweld o’n anodd achos hanesydd ro’n i eisiau bod, ond roedd o’n anodd ffeindio’r math yna o waith oedd yn cael ei dalu digon i fyw ar. Felly wnes i ddechrau DJio yng Nghlwb Ifor Bach a dros Gaerdydd. Wedyn wnes i ffeindio hysbyseb yng nghylchgrawn Gair Rhydd y brifysgol ac roedd y BBC newydd agor stiwdios newydd yn y Bae, sef Roath Lock, ac roedden nhw’n ffilmio Doctor Who yno. Felly wnaeth Llywodraeth Cymru roi grant i’r BBC gael trainees o Gymru a wnaeth y cwmni effeithiau arbennig yma yng Nghaerdydd gynnig blwyddyn o brentisiaeth. Wnes i ddechrau ar setiau Casualty a Doctor Who.

Dw i wedi bod o gwmpas y Deyrnas Unedig rŵan ac Ewrop – dw i wedi gweithio’n Prague, Malaga, Madrid a dros yr Alban. Dw i wedi byw yn Nulyn, Glasgow, Llundain, Caerdydd, Manceinion a Lerpwl. Dw i rŵan yn gweithio i’n hun ac yn bownsio o gwmpas yn gweithio i bwy bynnag.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn galed achos roedd yr actorion ar streic, ond mae hi’n dechrau pigo fyny eto rŵan. Ac ar hyn o bryd, dw i’n gweithio ar spin-off y rhaglen Outlander ar Amazon Prime sef Outlander: Blood of My Blood. Felly dw i’n gweithio yn Glasgow ar hyn o bryd. Mae Outlander yn enfawr yn America, mae o’n un o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd yno.

Beth yw eich atgof cynta’?

Fy atgof cyntaf ydy taid Jac yn mynd â fi i’r syrcas yng Nghaernarfon am y tro cyntaf. Dw i’n cofio gafael yn ei law o ac roedd o’n foi anferth – roedd o’n tua chwe throedfedd a phum modfedd. Mi fydda i’n cael yr atgof yma fel breuddwyd bob mis hefyd a dw i ddim yn gwybod os ydy hynny’n arwydd am rywbeth.

Ges i fagwraeth ofnadwy o gariadus. Mae gen i un brawd mawr, Huw, a dw i jest yn cofio bod adref yn chwarae lot. Roedden ni’n byw mewn ardal lyfli a’r hynaf dw i’n mynd, y fwyaf o hiraeth dw i’n cael a’r mwyaf dw i eisiau mynd yn ôl adref.

Beth yw eich ofn mwya’?

Mae gennai ofn mawr o farw heb gyflawni be dw i eisiau ei gyflawni.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i wedi dechrau bocsio felly ges i fy ffeit gyntaf ym mis Mawrth a wnes i guro! Wnes i ddechrau gan fy mod i mewn i chwaraeon combat beth bynnag ac wedi bod yn gwylio chwaraeon fel yna ers yn ifanc. A phan wnes i symud i ochrau Lerpwl ro’n i’n teimlo fy mod i eisiau dod i nabod y gymuned yn well felly wnes i ymuno efo gym bocsio yn Southport. Fydda i’n bocsio tua phedair gwaith yr wythnos. Mae cael cyfarfod lot o bobol sy’n mwynhau’r un peth yn grêt. Mae yna deimlad o gymuned gref yno.

Dw i’n rhedeg lot hefyd ac yn gwneud dipyn bach o ioga.

Beth sy’n eich gwylltio?

Malu cachwrs.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Dw i rili mewn i hip-hop ac arwr fi wrth dyfu fyny oedd Eminem felly byswn i’n ei wahodd o. Dw i eisiau trio gwneud be mae o wedi’i wneud ond yn yr iaith Gymraeg. Dw i eisiau torri rhyw fath o ffiniau achos dw i’n meddwl bod cerddoriaeth Cymraeg yn rhy saff. Dw i’n meddwl bod yna le i rywun dorri trwodd… Dim fy mod i’n cymharu’n hun i Eminem o gwbl achos does yna neb yn gallu cymharu i’r boi yna. Mae o wedi cael bywyd mor ddiddorol hefyd felly bysa fo’n sgwrs reit ddifyr.

I’r wledd, byswn i’n cael strictly vegan sushi. Dw i’n llysieuwr ond yn trio gwneud y symudiad draw i fod yn fegan.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd? 

Mae’n rhaid i fi ddweud fy narpar wraig, Jess. Roedd un o fy ffrindiau ysgol, Aled, yn priodi hogan o Lerpwl o’r enw Leslie. Wnes i gyfarfod chwaer Leslie, Jess, yn y briodas a ro’n i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth eithaf old school achos mae pawb yn cyfarfod ar-lein rŵan dydi. Rydan ni’n priodi ym mis Rhagfyr a dw i’n obsessed. Mae’r ffordd mae hi wedi pontio o fod yn berson normal i fod yn fam yn anhygoel. Mae hi’n dysgu Cymraeg hefyd achos Cymraeg dw i’n siarad efo ein merch 10 mis oed, Lily Del, yn y tŷ. Mae hi’n ofnadwy o browd o’r ffaith fy mod i efo iaith wahanol a Jess wnaeth ddewis enw canol Cymraeg i Lily. Felly bob sws gan Jess bob bore ydy’r gorau. Dw i’n ofnadwy o sentimental a dim ots gen i bwy sy’n gwybod.

Hoff wisg ffansi? 

Wnes i wisgo fel Norman Preis i barti Gym Gym [Cymdeithas Gymraeg myfyrwyr] Caerdydd yn 2009. Ro’n i wedi rhoi gymaint o ymdrech mewn i’r peth.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Y flwyddyn 2018.

Gwyliau gorau?

Y gwyliau cyntaf efo Jess oedd i Rufain a doeddwn i erioed wedi bod o’r blaen. Dw i’n darllen lot mewn i hanes Ewrop a dw i’n obsessed efo chwaraeon combat hefyd ac maen nhw’n trio dweud mai’r colosseum oedd man geni hynny. Wnaethon ni gael amser anhygoel ac roedd y bwyd yn grêt. Roedd gennai lwmp yn fy ngwddf wrth gerdded o gwmpas y lle.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Fy mabi bach, Lily Del. Mae hi’n magu dannedd ar y funud a dydyn ni jest ddim yn cysgu. Ond mae hi werth o… Dw i’n meddwl!

Hoff ddiod feddwol?

Peint o Guinness.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Wnes i ddarllen llyfr gan newyddiadurwr o Brighton, Ioan Grillo, cwpl o flynyddoedd yn ôl, sef El Narco. Fe gafodd o swydd efo’r Guardian pan oedd o yn y brifysgol, i fynd draw i Fecsico i sbïo mewn i’r fasnach cyffuriau yno. Doedd ganddo fo ddim syniad be oedd o cyn mynd draw. Ond erbyn hyn, mae o’n un o’r ‘leading narco journalists’ – dyna maen nhw’n ei alw fo. Mae ei lyfr o’n wallgof ac mae o’n cyfweld pobol ddrwg iawn.

Hoff air?

Chwyrligwgan.

Hoff albwm? 

Lifestylez ov da Poor and Dangerous gan MC o’r enw Big L. Dw i’n cofio gwrando ar yr albwm yna pan o’n i yn y brifysgol a wnaeth o agor fy llygaid i’r ffordd mae pobol yn sgrifennu stwff. Mae o’n cael ei gyfri fel un o’r gorau am adrodd straeon mewn hip-hop.

Buoch chi’n chwarae’r bas i Derwyddon Dr Gonzo yn ystod eich dyddiau ysgol a choleg… Sut brofiad oedd hynny?

Wir yr, roedd o’n un o brofiadau hapusaf fy mywyd. Neidio yng nghefn fan ar ôl gwaith, coleg neu ysgol ar nos Wener, a mynd lawr i Gaerdydd i chwarae’n Clwb Ifor Bach ac wedyn gyrru yn ôl adref a mynd i’r ysgol, a gwneud yr holl beth eto. Roedd o’n anhygoel cael chwarae miwsig efo fy ffrindiau gorau sydd yn gerddorion grêt. Dw i’n cael shiver bach bob tro dw i’n meddwl amdano fo. Wnes i ddysgu lot amdana i fy hun fel person yn ystod yr adeg yna a wnes i gyfarfod fy ffrindiau gorau am byth drwy’r Sîn Roc Gymraeg.

Ella wneith o ddigwydd eto… pwy a ŵyr?

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Eisteddfod 2025… winc, winc.