Fe wnes i adnabod y peth ynoch chi tua’r un amser ag  yr adnabyddais yr arwyddion ynof fi fy hun. Y cyfnod, i ddechrau, o ymwrthod â phwy oeddwn i, brwydro’n erbyn fy ngreddfau, nes fod hynny’n amhosib. Ac wrth i mi archwilio pwy oeddwn i go-iawn, yn dawel i mi fy hun, ro’n i’n sicr rhywsut eich bod chi’r un ffordd. Hyfrdra, efallai, i feddwl y medrwn i wybod ffasiwn beth heb unrhyw fath o dystiolaeth. Ond Nain, dwi’n gwybod eich bod chi fel fi.