Mae Elin Wyn Owen wrth ei bodd gyda dwy gân gyntaf cantores ifanc o Ben Llŷn sydd wedi astudio cerddoriaeth yng Nghaliffornia a chyfro un o glasuron Dyfrig Topper…

Myfyrio ar y sefyllfa yn Gaza a chofio am un o sêr y sîn roc Gymraeg mae cantores o Lithfaen ar ei sengl ddwbl gyntaf.

Wedi cyfnod o weithio ar ganeuon a chanu’n fyw yn lleol a thu hwnt, daeth cyfle i Lleucu Gwawr rannu ei cherddoriaeth ymhellach drwy recordio gyda Sain.