Portread o Elin Bartlett
Myfyrwraig meddygaeth sydd â diddordeb arbennig mewn iechyd menywod fydd Cyflwynydd y Flodeuged yn Eisteddfod Wrecsam flwyddyn nesaf.
Mae Elin Bartlett yn 23 oed ac ar ei phedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, a bu’n rhan o seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn ddiweddar.
Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Elin, sy’n dod o bentref Rhosllannerchrugog fymryn tu allan i ddinas Wrecsam, yn cyd-gyflwyno podlediad am iechyd merched.