Mae’r gantores 24 oed o Benisarwaun ger Caernarfon newydd ryddhau ei sengl gyntaf ers tair blynedd, sef ‘Cerrynt’.

Wedi’i magu mewn cartref cerddorol, mae ei thad, Tudur Huws Jones, fu’n chwarae i Gwerinos, 4 yn y Bar, Cilmeri a Branwen, wedi cael cryn ddylanwad arni, yn ogystal â’i hewythr, Emyr Huws Jones, cyn-aelod Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim.