Mae’r brodyr o Fôn yn ôl gyda’u gwaith gwreiddiol cyntaf ers chwe blynedd, a’u cân ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi ennill gwobr yn yr Ŵyl Ban Geltaidd…

Cadw hanes Cymru yn fyw ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a hynny trwy gerddoriaeth werin, yw gobaith band o frodyr Cymraeg/Gwyddelig o Fôn.

Ar ôl blynyddoedd o gigio a chwarae fersiynau eu hunain o alawon gwerin poblogaidd, mae’r Brodyr Magee wedi rhyddhau eu cerddoriaeth wreiddiol am y tro cyntaf ers 2018.