Mae llyfrau yn dod mewn amryw o gategorïau ac yn cael eu defnyddio tuag at ddibenion gwahanol.

Myfyriwr efo’i werslyfr, dyddiadurwr efo’i ddyddlyfr a chyfreithiwr efo llyfr y gyfraith. Pawb efo’u llyfr!

Un categori dwi’n hoff ohono ydy’r llyfr bwrdd coffi. Ac er fy mod yn credu bod llyfrau dyfyniadau yn gwneud llyfrau bwrdd coffi da, yn fy nghartref, llyfrau celf sy’n rhagori.