Mae un o wynebau cyfarwydd S4C ac un o chwaraewyr Cymru wedi gwneud rhaglen realiti am gael plentyn. Ond doedd y camerâu ddim yn yr enedigaeth ei hun…

Mae un o gyflwynwyr tywydd S4C ac un o bêl-droedwyr Abertawe wedi agor eu drysau i gamerâu ddogfennu’r wythnosau cyn iddyn nhw groesawu eu plentyn cyntaf.