Mae un o sêr y gyfres Gogglebocs Cymru yn adnabyddus am eistedd ar y soffa gyda’i gŵr, Dylan, yn tynnu coes a chael hwyl.

Ond beth nad yw gwylwyr S4C efallai yn sylweddoli yw ei bod hi’n dioddef gyda’r cyflwr Colitis Briwiol ers ei phlentyndod.

Yn fam i ddau, mae’r ddynes 45 oed yn byw yn y Fali ar Ynys Môn ac yn Weithiwr Gofal Clinigol.