Mae’r Tori David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn San Steffan, wedi awgrymu byddai ei blaid yn fodlon cydweithio gyda Phlaid Cymru er mwyn dod â goruchafiaeth y blaid Lafur yn y Senedd i ben.

Mae Plaid wedi bod mewn ‘cytundeb cydweithio’  gyda Llafur Cymru ers 2021 bellach, ac maen nhw eisoes wedi wfftio awgrym diweddara’r Torïaid.