Fe all rhywun ddadlau fy mod wedi bod yn ofnadwy o ffodus gyda fy ngwaith a fy mod wedi cael gwneud yr hyn rwyf yn ei fwynhau. Yn ystod fy arddegau ddiwedd y 1970au mae’n debyg fod cerddoriaeth bop wedi bod yn achubiaeth, ond wrth chwarae recordiau saith modfedd ar bnawn Sadwrn yn y tŷ go brin byddwn wedi dychmygu gwneud fy mywoliaeth, am gyfnod o leiaf, yn y diwydiant cerddoriaeth.