Dwy Aber a dwy agwedd wahanol iawn…

Draw yng Ngheredigion mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi pleidleisio yn unfrydol, fwy neu lai, tros gael enw Cymraeg yn unig ar eu hundeb.

Fe fotiodd 81% o’r 150 o stiwdants oedd yn y cyfarfod cyffredinol tros gael yr enw ‘Undeb Aberystwyth’, a hynny er mwyn “adlewyrchu hunaniaeth Gymreig a Chymraeg yr Undeb”.