Mae Cymraes o Gricieth wedi ymddangos ar ‘Squid Game: The Challenge’ ar wasanaeth ffrydio enfawr Netflix…

Does fawr ddim yn dychryn styntwraig o’r gogledd sy’n fodlon ymgymryd ag unrhyw her – cael ei rhoi ar dân, hongian ar wifrau neu neidio o uchder.

Mae Giovana Braia yn feistres ar ddawns, jimnasteg, cic-bocsio, deifio a nofio, ac wedi gwneud styntiau ar gynyrchiadau i gwmnïau mawr fel Netflix, Sony ac Amazon.