Mae paentiadau artist ifanc o Geredigion wedi cael eu cymharu gyda stwff Kyffin Williams, a’i gwaith wedi ei werthu yn Hong Kong, Japan a Ffrainc…

Pan oedd Eloise Govier yn astudio Hanes Celf ym Mhrifysgol St Andrews yn yr Alban – a’i chyfoedion oedd William, Tywysog Cymru, a’i wraig Kate – daeth i’r casgliad bod yn well ganddi “wneud celf yn hytrach na siarad amdano fe.”