Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dod ynghyd ar gyfer eu cynhadledd wanwyn…

Dros y penwythnos bu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgynnull ym Mae Caerdydd i drafod eu gweledigaeth ar gyfer Cymru.

Yn agor y gynhadledd roedd Bablin Molik, Arglwydd Faer Caerdydd, sydd hefyd yn Ddemocrat Rhyddfrydol.

O blith y 118 a fu yn Faer ar y brifddinas, dim ond 15 menyw fuodd yn y rôl o’i blaen – a doedd ddim un o’r rheiny yn fenywod o liw nac yn Fwslemiaid.