Annwyl Rhian,

Tua thri mis yn ôl mi wnes i ddarganfod bod fy ngwraig wedi bod yn cael affêr efo’r dyn drws nesa. Roedd o wedi colli ei wraig ei hun ryw ddwy flynedd yn ôl i ganser. Dechreuodd fy ngwraig fynd draw yno efo prydau bwyd iddo, i ddechrau, ac wedyn roedd hi’n mynd draw gyda’r nos i wylio Pobol y Cwm efo fo, a bod yn gwmni iddo. Mae o ryw ddeng mlynedd yn hŷn na ni, ac yn ei chwe degau cynnar.