Mae galw am gyflwyno proses gwbl annibynnol er myn delio gyda chwynion am wleidyddion Bae Caerdydd…

Mae hi’n rhy anodd cwyno am Aelod o’r Senedd, yn ôl yr undeb Unite.

Daw eu sylwadau yn dilyn galwadau gan bleidiau ac undebau eraill am broses gwbl annibynnol ar gyfer delio gyda chwynion.

Mae un cyn-aelod o staff y Senedd wedi honni wrth y BBC eu bod nhw wedi cael eu trin “fel baw ci” gan yr Aelod o’r Senedd oedd yn eu cyflogi.