Bydd un o gyflwynwyr mwya’ cyfarwydd S4C yn dychwelyd i’r West End yn Llundain i berfformio eleni.

Bu Owain Williams yn “gwasanaethu plant Cymru” am ddeuddeng mlynedd fel cyflwynydd Stwnsh Sadwrn, cyn rhoi’r gorau i’r gwaith y llynedd.

Mae’r actor o Sanclêr ger Caerfyrddin, sy’n byw yn Llundain fwy neu lai ers iddo fynd yno i goleg drama, yn hen law ar berfformio mewn sioeau cerdd.